Gwneuthurwr Weldio
Cyfweliadau i'w gynnal ar Dydd Iau 15 o Fai 2025.
Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Mae Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd (CTS) yn is-gwmni sydd yn eiddo llwyr i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r adran adeiladu yn cynnwys yr adran Gwaith Coed, yr adran Weldio a Gwneuthuro a'r Swyddfa Luniadu.
Rydym yn awyddus i benodi Gwneuthurwr Weldio i gynhyrchu a gosod golygfeydd i gwrdd â'r safonau sy'n ofynnol gan y cwmni a'r cleient, gweithio'n bennaf o luniadau adeiladu ac yn achlysurol trwy gyfarwyddyd llafar; i ddilyn prosiectau o'r gweithdai hyd at osod ar y llwyfan neu mewn lleoliadau eraill.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
Bydd gofyn i chi weithio gyda dur yn bennaf (Gradd 3 yn ddisgwyliedig), ac weithiau gydag Alwminiwm neu ddefnyddiau eraill gan ddefnyddio technegau weldio, plygu, torri a siapio (Graddau 1 a 2 yn ddisgwyliedig). Bydd hefyd gofyn i chi wneud deunyddiau yn ôl yr angen gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a chyfarpar a chynhyrchu fframiau, llwyfannau a strwythurau a gwneud gwaith adnewyddu setiau yn ôl yr angen.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
* Lefel uchel o sgil a gallu ym mhob agwedd ar adeiladu golygfeydd, yn enwedig mewn perthynas â thechnegau weldio a gwneuthuro, ond hefyd mewn dulliau adeiladu eraill sy'n gysylltiedig â chynhyrchu golygfeydd.
* Bydd Gwneuthurwyr Weldio hefyd yn hyfedr iawn yn y defnydd o'r holl offer llaw a pheiriant perthnasol.
* Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith cymhleth a gweithio o fewn terfynau amser tynn.
* Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig rhagorol.
* Gallu gweithio heb oruchwyliaeth ac achub y blaen, ond gweithio fel rhan o dîm hefyd.
* Sgiliau rheoli amser rhagorol.
* Y gallu i roi sylw i fanylder.
* Hyblyg o ran arferion gwaith.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog £24,829-£27,682 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad.
Pensiwn Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, tri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredig a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Gostyngiadau Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda Future Inns yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
Rhaglen Cymorth i Weithwyr Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
Os ydych yn chwilio am eich her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw geisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na phe baent yn Saesneg.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â heledd.davies@wno.org.uk
#J-18808-Ljbffr