Cynorthwy-ydd Gweinyddol (Ymchwil) Canolfan Wolfson Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Gweinyddol i roi cymorth proffesiynol i Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Yn benodol, rydym am i ddeiliad y swydd gynorthwyo ffrwd waith "Ymyriadau ymhlith pobl ifanc sydd â risg deuluol uchel" y Ganolfan, gan gynnwys cynorthwyo ymyrraeth a ariennir yn rhan o'r ffrwd waith hon i atal iselder. Treial clinigol ar raddfa fawr yw hwn sy'n ymchwilio i effeithiolrwydd rhaglen Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-lein i atal iselder ymhlith pobl ifanc. Yn y rôl hon byddwch yn cynorthwyo ac yn arwain prosesau a gweithdrefnau gweinyddol gan gynnwys prosesau recriwtio a sgrinio’r rhai sy’n cymryd rhan. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn rôl neu wasanaeth gweinyddol. Bydd hefyd yn meddu ar sgiliau o’r radd flaenaf wrth drefnu/cydlynu prosiectau, cyfathrebu a gweithio’r rhan o dîm. Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon. Mae ar gael ar unwaith ac mae am gyfnod penodol tan 30/09/2025. Cyflog: £26,444 - £29,605 pro rata y flwyddyn (Gradd 4) Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Yn Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maendy, Caerdydd, y byddwch yn gweithio’n bennaf, ond bydd gofyn i chi weithio yn Adeilad SBARC, Heol Maendy, o bryd i’w gilydd. I gael sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rheolwr Canolfan Wolfson, Laura Cook (CookL5caerdydd.ac.uk) Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw. Dyddiad cau: 18 Tachwedd 2024 Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. O ganlyniad, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. DIBEN Y SWYDD Rhoi cymorth cynhwysfawr a phroffesiynol i Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Byddwch yn diwallu anghenion gweinyddol ehangach y Ganolfan yn ogystal â chynorthwyo ffrwd waith "Ymyriadau ymhlith pobl ifanc sydd â risg deuluol uchel" y Ganolfan, gan gynnwys cynorthwyo ymyrraeth i atal iselder a ariennir yn rhan o'r ffrwd waith hon. Treial clinigol ar raddfa fawr yw hwn sy'n ymchwilio i effeithiolrwydd rhaglen Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-lein i atal iselder ymhlith pobl ifanc. Yn y rôl hon byddwch yn cynorthwyo ac yn arwain prosesau a gweithdrefnau gweinyddol gan gynnwys prosesau recriwtio a sgrinio’r rhai sy’n cymryd rhan. Bydd y rôl yn cynnwys bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y treial, cysylltu â theuluoedd, a threfnu asesiadau pellach. Prif Ddyletswyddau Gwaith gweinyddol cyffredinol Rhoi cyngor ac arweiniad manwl i gwsmeriaid mewnol ac allanol (y staff, y myfyrwyr neu’r cyhoedd) ynghylch prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ac ymchwil, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a chreadigrwydd wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth. Gweithio gydag eraill i argymell ffyrdd gwell o weithio. Creu perthynas gynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella lefel y gwasanaeth y mae'r tîm yn ei roi i’w gwsmeriaid. Yn benodol, bydd gofyn i chi ddatblygu perthnasoedd â theuluoedd ymchwil sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n addas i'w cynnwys yn yr ymyrraeth atal iselder a ddisgrifir uchod. Felly, mae gallu cyfathrebu’n hyderus a chlir, yn ogystal â sefydlu perthynas waith dda gydag ystod o unigolion o wahanol gefndiroedd, yn hanfodol i allu cyflawni'r rôl yn effeithiol. Cynorthwyo prosesau gweinyddol craidd a gweithgareddau gweithredol ac ymchwil Canolfan Wolfson Cefnogi a chynorthwyo uwch-aelodau'r Ganolfan gan gynnwys trefniadau teithio, rheoli dyddiaduron a threfnu cyfarfodydd Cynnal cofnodion cywir o drafodion ariannol a monitro gwariant parhaus yn erbyn y gyllideb Casglu, paratoi a hidlo gwybodaeth am gyhoeddiadau, grantiau a ddyfarnwyd, a dangosyddion perfformiad allweddol eraill er mwyn adrodd yn ôl yn rheolaidd i arianwyr a rhanddeiliaid eraill Hyfforddi ac arwain cydweithwyr ar draws y Brifysgol ym maes cynorthwyo ymchwil yn ôl yr angen. Dyletswyddau Cyffredinol Dilyn pob un o bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol. Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd. Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau'r Gwasanaethau Proffesiynol neu werthoedd ac ymddygiadau cyfatebol yn lleol. Gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r treial Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo tîm y prosiect ymchwil, Canolfan Wolfson, yn ogystal â grŵp ac Is-adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn gyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys: Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y treial, cysylltu â theuluoedd, a threfnu asesiadau pellach. Cynnal cysylltiad drwy gylchlythyrau blynyddol a grwpiau ffocws, gan wneud yr holl drefniadau ymarferol a gweinyddol Rhoi cymorth gweinyddol o’r radd flaenaf yn rhan o dîm ehangach y prosiect, a fydd yn cynnwys rhywfaint o gymorth ariannol Cysylltu â’r rhai sy’n cymryd rhan yn y treial er mwyn trefnu apwyntiadau a gwneud ymholiadau yn eu cylch, sgrinio i weld a ydynt yn gymwys, cadw golwg ar gynnydd/amserlenni’r rhai sy’n cymryd rhan Archebu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer y Ganolfan a'r treial (gan gynnwys archebu a dosbarthu talebau i’r rhai sy’n cymryd rhan) a monitro pa ddeunyddiau astudio sydd ar gael Anfon llythyrau at feddygon teulu i roi gwybod am y rhai sydd wedi cofrestru i gymryd rhan, a rheoli prosesau gweinyddol sy'n dilyn galwadau sgrinio ac asesu (e.e. anfon ffurflenni caniatâd wedi'u llofnodi) Sicrhau bod dealltwriaeth glir o'r holl ddogfennau astudio (yn enwedig dogfennau y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn eu gweld) a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y fersiynau cywir, gan sicrhau bod y dogfennau sydd ar Teams ac sy’n cael eu rhoi i’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu diweddaru yn unol â diwygiadau Bod yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd ac ystafelloedd ar gyfer cydweithwyr academaidd Cymryd cyfrifoldeb am y blwch post a rennir ar gyfer yr astudiaeth a Calendly (meddalwedd penodi) a gwirio ffonau astudio yn rheolaidd Cysylltu â thîm y treial i sicrhau bod y cronfeydd data sy’n olrhain y rhai sy’n cymryd rhan yn gyfredol Goruchwylio gwaith recriwtio a sefydlu Canolfannau Adnabod Cyfranogwyr (PICs) Meddygon Teulu, gan gynorthwyo’r canolfannau hyn i gynnal chwiliadau ac anfon negeseuon ebost, yn ogystal â rheoli'r broses o ad-dalu unrhyw gostau a allai fod yn ddyledus iddynt. Goruchwylio gwaith recriwtio a sefydlu ysgolion, colegau, prifysgolion, fel y nodir uchod PWYSIG: Tystiolaeth o Feini Prawf Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol lle y bo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon / ei hychwanegu at broffil eich cais, gofalwch eich bod yn rhoi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Yn achos y swydd hon, 18094BR yw’r cyfeirnod. Byddwch yn ymuno â Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, sy’n werth £10 miliwn ac yn rhan o‘r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae diwylliant ymchwil Prifysgol Caerdydd yn ffynnu ac yn canolbwyntio ar iechyd meddwl, ac mae ymchwil yn cael ei chynnal ar draws ystod o ddisgyblaethau. Mae ein hymchwil yn ymdrin ag iechyd meddwl y boblogaeth, geneteg, ymyriadau, gwybodeg iechyd meddwl ac ymchwil iechyd meddwl mewn ysgolion. Meini Prawf Hanfodol Y gallu i gyfathrebu’n ysgrifenedig mewn modd clir, cryno ac effeithiol er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad manwl ar waith gweinyddu a chynorthwyo ymchwil. Tystiolaeth o rifedd a llythrennedd TG o safon. Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wneud gwelliannau i’r rhain fel y bo'n briodol. Gwybodaeth arbenigol am: Ystyriaethau polisi a moesegol mewn perthynas â grantiau ymchwil Y cymorth sydd ei angen ar gyfer treialon a/neu astudiaethau ymchwil, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â phoblogaethau agored i niwed Egwyddorion/arferion rheoli prosiectau Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth, yn ogystal â'r gallu amlwg i feithrin a chynnal perthynas waith hirdymor ac o safon gydag ystod eang o bobl o gefndiroedd amrywiol. Y gallu i gynghori rhanddeiliaid allweddol yn eich maes gwaith a dylanwadu arnynt. Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth rydych yn ei ddarparu yn unol â hynny er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi gwasanaeth o safon. Y gallu i ddefnyddio eich crebwyll a’ch creadigrwydd i ddatrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan ddod o hyd i atebion ymarferol a’u cynnig. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, cynllunio, pennu a monitro eich blaenoriaethau chi a’r tîm. Y gallu diamheuol i fod yn aelod effeithiol o dîm, gan roi cyngor a chyfarwyddyd i aelodau eraill y tîm pan fo angen. Meini Prawf Dymunol Profiad o weithio mewn swydd neu faes tebyg, e.e. Addysg Uwch. Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i’w dysgu. Profiad o weithio gyda phobl sy'n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl (e.e. Anhwylder Pruddglwyfus Difrifol, Anhwylderau Gorbryder). Profiad o recriwtio cleifion y GIG i astudiaethau ymchwil.