Swyddog Gwaith Achos (Delio â Galwadau) £29,094-£30,060 - (1 x siaradwr Cymraeg rhugl yn hanfodol, 1 x siaradwr Cymraeg yn ddymunol)
Dyddiad Cau: 17:00, 02/04/2025
Y Cyfle
Mae Yolk Recruitment wedi partneru ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddod o hyd i 2 Swyddog Gwaith Achos (Delio â Galwadau).
Gan gynnig trefniadau gweithio hybrid, gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac ystod eang o fuddion iechyd a lles, ystyrir yr Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i geiswyr gwaith ledled Cymru a thu hwnt. Oherwydd natur y swydd hon, rhagwelwn y bydd angen i'r rolau hyn fod wedi'u lleoli yn y swyddfa yn bennaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol.
Mae'r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol hanfodol.
Pwrpas y Rôl
Mae'r rhain yn rolau lle bydd eich gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn dod i'r amlwg, lle byddwch yn delio ag ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd ac yn datrys ac yn uwchgyfeirio lle bo angen, ynghyd â drafftio a chyhoeddi hysbysiadau penderfynu perthnasol. Byddwch yn:
Gosod achosion ar y system rheoli achosion.
Cymryd cwynion llafar gan achwynwyr (yn Gymraeg ar gyfer y rôl sy'n siarad Cymraeg).
Cofnodi'r post a delio â phost i'w danfon y Tîm.
Prosesu cwynion a gohebiaeth a geir trwy 'Holi', gan gynnwys gwrtho...