Amdanom ni: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff. Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref. Y rôl: Cynnig gwasanaeth goruchwylio dros dro mewn ystafelloedd dosbarth pan fydd athro yn absennol (achosion wedi’u rhagweld a heb eu rhagweld), gan sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni gwaith a osodwyd ymlaen llaw, yn ogystal â rheoli ymddygiad a sicrhau amgylchedd diogel. Amser-Llawn (37 awr yr wythnos) Yn Ystod y Tymor (36 wythnos y flwyddyn) Parhaol £20,339 - £22,141 y flwyddyn Campws Tycoch, Abertawe Cyfrifoldebau Allweddol: Adrodd i’r RhMDC bob bore i dderbyn amserlen goruchwylio’r dydd. Os bydd athro yn absennol am gyfnod byr o amser, bydd angen i chi gofrestru a goruchwylio dosbarth o fyfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn ymgymryd â’r gwaith a osodwyd iddynt gan yr athro. Gall hyn gynnwys esbonio’r gwaith dan sylw ac ateb cwestiynau’r myfyrwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn deall yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Darparu adborth i’r athro neu’r RhMDC, gan sôn am unrhyw broblemau a gododd yn ystod y gwersi. Hwyluso argaeledd adnoddau neu weithgareddau er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gallu defnyddio adnoddau’r wers (e.e. llungopïo adnoddau perthnasol ac ati). Amdanoch chi: Gweithio tuag at radd neu gymhwyster Lefel 4 Profiad o drefnu gweithgareddau i ennyn diddordeb pobl ifanc a hybu ymddygiad da Digon o hyder a gallu i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol â gwahanol grwpiau o bobl e.e. pobl ifanc, rhieni, sefydliadau allanol, staff academaidd. Y gallu i osod ffiniau clir wrth weithio’n agos â phobl ifanc. Buddion: 28 diwrnod (pro rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023) Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch ein tudalen canllaw. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad. Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru. Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).