Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Nyrs Ymchwil Y Ganolfan Treialon Ymchwil Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned fawr, ryngwladol o ymchwilwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd. Rydyn ni'n mynd i'r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr a meithrin perthnasoedd parhaol â'r cyhoedd. Cewch wybod rhagor am y Ganolfan ac am weithio gyda ni yma. Mae cyfle newydd a chyffrous wedi codi i Nyrs Gofrestredig ymuno â'r Ganolfan hon sydd wedi'i chofrestru gan UKCRC fel Nyrs Ymchwil sy'n rheoli ac yn cyflwyno portffolio o dreialon clinigol ac astudiaethau ymchwil. Byddai'r swydd hon yn addas i unigolyn hunan-gymhellol gyda'r gallu i weithio mewn tîm amlddisgyblaethol a chysylltu â nifer o randdeiliaid ar draws y GIG, y byd academaidd a diwydiant i sicrhau y cyflwynir astudiaethau clinigol masnachol ac anfasnachol yn llwyddiannus ym maes ymchwil treialon clinigol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar astudiaethau ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, a all gynnwys oedolion heb alluedd. Mae profiad mewn ymchwil glinigol gan gynnwys sefydlu protocolau astudio clinigol ynghyd â gweithrediad arbenigol a monitro parhaus o gyflenwi protocol yn hanfodol. Fel Nyrs Ymchwil (gradd 6), rydym yn chwilio am rywun sydd wedi cofrestru gyda'r NMC ar hyn o bryd, wedi addysgu i lefel graddedig/NVQ 4 neu sydd â phrofiad proffesiynol cyfatebol. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at reoli a chyflwyno astudiaethau yn y Ganolfan Treialon Ymchwil, gan gynnwys treialon clinigol a ariannwyd yn ddiweddar mewn ymyriadau hunanreoli ac iechyd menywod. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth dda o arfer clinigol da ac agweddau rheoliadol ar ymchwil glinigol a bydd yn gallu gweithio'n hyblyg o fewn y cyfyngiadau hyn i gyflwyno astudiaethau ymchwil yn ôl yr angen. Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Victoria Shepherd, Prif Gymrawd Ymchwil drwy ffonio: (0)29 20687641 shepherdvl1caerdydd.ac.uk Swydd rhan amser (21 awr yr wythnos), benagored, wedi'i lleoli ym Mharc y Mynydd Bychan yw hon, ac mae ar gael o’r 7 Ebrill 2025. Mae'r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau "gweithio cyfunol" ar hyn o bryd, gan roi hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o gartref ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl penodi'r ymgeisydd llwyddiannus. Cyflog: £40,247 - £45,163 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 6) Ym Mhrifysgol Caerdydd, caiff unigolion eu penodi ar waelod y raddfa gyflog fel arfer, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu nifer o wahanol heriau. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw. Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2025 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Diben y Swydd Cefnogi’r Ganolfan Treialon Ymchwil i ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth clinigol, ac arwain prosiectau ymchwil cymhleth ym maes ymchwil treialon. Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Prif Ddyletswyddau • Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ynghylch treialon clinigol a gweithdrefnau astudiaethau eraill i gwsmeriaid mewnol ac allanol (ar draws maes academaidd, GIG a diwydiant) a fydd yn cael effaith ar draws y sefydliad, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau pan fo'n briodol, a gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall • Cymryd cyfrifoldeb am ddatrys problemau sy’n berthnasol i ofynion ymchwil nyrsys arbenigol mewn treialon clinigol ac astudiaethau eraill pan fyddant o fewn amcanion penodol y rôl • Ymchwilio a dadansoddi materion penodol mewn perthynas â nyrsio ymchwil treialon clinigol, gan lunio adroddiadau gydag argymhellion, a ategir gan ddatblygiadau o fewn treialon clinigol a chynlluniau astudio eraill • Gwneud yn siŵr bod treialon clinigol ac astudiaethau eraill yn cael eu cyflwyno i’r sefydliad, yn ogystal â newid yr hyn a gaiff ei ddarparu yn unol â gofynion y cwsmer. • Meithrin perthynas â chysylltiadau allweddol i sicrhau bod modd cyflawni amcanion eich rôl, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol a chyrff allanol fel y bo angen. • Creu gweithgorau penodol o gydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion ymchwil y Ganolfan. • Ymgymryd â hyfforddiant treial penodol i gyflwyno protocolau astudio yn ôl yr angen • Datblygu a darparu hyfforddiant o fewn treialon clinigol ac astudiaethau eraill • Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau nyrsio ymchwil a gweinyddol i gefnogi'r ganolfan. • Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Ganolfan lle bo angen ac mewn perthynas â nyrsio ymchwil • Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud a'i ddogfennu mewn ffordd sy'n cydymffurfio â rheoliadau, a bod yn barod ar gyfer archwiliadau ac arolygiadau rheolaidd, yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu'r system rheoli ansawdd ar gyfer y maes treialon. Dyletswyddau Cyffredinol • Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd • Glynu wrth bolisi Iechyd a Diogelwch a pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini Prawf Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi gyflwyno'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gofalwch bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf. Wrth roi’r datganiad ategol ynghlwm wrth broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: 19726BR Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei symud ymlaen os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd. Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg 1. Gradd/NVQ 4 neu brofiad cyfatebol gyda chofrestriad cyfredol gyda'r NMC. Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad 2. Profiad sylweddol o weithio o fewn ymchwil iechyd yn y GIG 3. Y gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol o fewn ymchwil iechyd yn y GIG i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol. 4. Profiad profedig o sefydlu, gweithredu a monitro protocolau treialon clinigol yn lleol 5. Profiad diamheuol o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd. Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm 6. Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrediad eang o bobl 7. Tystiolaeth o'r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny i roi gwasanaeth o safon Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau 8. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau eang trwy ddefnyddio menter a chreadigrwydd, gan nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol. 9. Tystiolaeth o wybodaeth amlwg am ddatblygiadau allweddol ym maes ymchwil treialon clinigol 10. Tystiolaeth o allu i gyflawni a darparu gweithgareddau a phrosiectau treialu penodol a hyfforddi a goruchwylio timau prosiect treialu penodol tymor byr Meini Prawf Dymunol 1. Ymrwymiad i gynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn modd uchel ei ansawdd 2. Cymhwyster ôl-raddedig neu'n gweithio tuag at un 3. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch 4. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar