The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Maer ysgol yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol sy n meddu ar sgiliau rhyngbersonol dda i ymgymryd âr swydd uchod yn yr Adran Gynnal.
Mae Penweddig yn ysgol lwyddiannus, sydd â hanes o welliant a datblygiad. Mae nifer sylweddol o’n disgyblion yn sicrhau canlyniadau TGAU a Lefel A sydd yn uwch nag ysgolion cyffelyb.
Mae ymddygiad ein disgyblion yn dda iawn, ac mae ganddynt
ymagwedd bositif ac ysgogol at ddysgu. Cyniga’r ysgol gwricwlwm eang a chytbwys gydag ystod gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol. Mae Penweddig yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol.
Disgrifiad Swydd
Gweithio (yn annibynnol ar brydiau) o dan arweiniad uwch aelodau or staff/staff addysgu er mwyn ymgymryd â rhaglenni gwaith/ gofal/ cefnogi/ allanol (mewn meysydd arbenigol) i alluogi mynediad at ddysgu ir disgyblion ac i gynorthwyo’r athro neu’r athrawes gyda rheolaeth y disgyblion a’r ystafell ddosbarth. Gall y gwaith ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth neu oddi allan i’r prif leoliad addysgu.
Gweler in gwefan gyrfaoedd am y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r ysgol ar 01970639499 neu ar ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .