The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch, yn awyddus i benodi athro / athrawes i ymuno a’n tîm gweithgar o staff yn barhaol o fis Medi 2025 ymlaen.
Bydd yr ymgeisydd yn addysgu yn nosbarth cymysg o ddisgyblion oed Cam cynnydd2/3. Bydd cyfleoedd i weithio ar safle Ysgol Penllwyn ac ysgol Penrhyn-coch.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i godi safonau. Athro/Athrawes effeithiol, ysbrydoledig a brwdfrydig, gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i ddatgloi potensial pobun disgybl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda thîm brwdfrydig a gweithgar o staff sy’n ymroi’n llwyr i sicrhau llwyddiant pob un disgybl.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol a bydd athrawon newydd gymhwyso yn cael eu hystyried. Yn ddymunol, byddai arbenigedd mewn un o’r canlynol: Llythrennedd Corfforol a/neu’r gallu i ganu’r piano.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i’r swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth y ddwy ysgol, Catryn Lawrence ar prif@penrhyncoch.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr