Job Description
Swyddog Cynllunio Rheoli Datblygu
Penrhyndeudraeth
Amdanom Ni
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (ENPA) yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ymestyn dros 823 milltir sgwr, maer parc yn gartref i fynydd uchaf Cymru, llyn naturiol mwyaf Cymru, a thros 26,000 o bobl.
Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Cynllunio i ymuno â'n tîm yn llawn amser, parhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
1. Cyflog o £33,366 - £38,626 yr flwyddyn
2. Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd
3. 24 diwrnod o wyliau
4. Cynllun pensiwn
5. Ap Llesiant 360, gan gynnwys mynediad i Feddygon Teulu, cymorth iechyd meddwl, ac adnoddau ffitrwydd
6. Gostyngiadau a rhaglenni cymorth ariannol
7. Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Swyddog Cynllunio, byddwch yn cefnogi darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cynllunio ar draws y sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys darparu arweiniad, prosesu ceisiadau a chefnogi cydymffurfiaeth er mwyn helpu i warchod a gwella tirwedd unigryw'r parc. Gan gydweithio â thimau mewnol ac asiantaethau allanol, byddwch yn ymdrin ag ymholiadau cyn ymgeisio, yn asesu ac yn prosesu ceisiadau cynllunio ac yn sicrhau y gwneir penderfyniadau cydlynol. Byddwch hefyd yn paratoi adroddiadau, yn drafftio argymhellion ac yn cyflwyno canfyddiadau i'r Pwyllgor Cynllunio a Mynediad.
Yn ogystal, byddwch yn:
1. Mynd i'r afael ag achosion o dorri rheolau cynllunio
2. Cyfrannu at ddatblygu ein strategaethau a'n polisiau cynllunio
3. Rheoli ceisiadau am hysbysebion, tystysgrifau defnydd cyfreithlon, minor amendments, a chyflawni amodau
4. Ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd ac asiantiaid dros y ffôn, e-bost ac yn bersonol
5. Cynrychioli'r Awdurdod mewn cyfarfodydd allanol, cynorthwyo gydag apeliadau, a chyfrannu at waith y Cynllun Datblygu Lleol pan fo angen
Amdanoch Chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Swyddog Cynllunio, bydd angen y canlynol arnoch:
1. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg
2. Profiad o gynllunio a/neu reoli datblygu
3. Profiad o baratoi adroddiadau a datganiadau
4. Y gallu i ddarllen a deall cynlluniau adeiladu
5. Cael addysg hyd at lefel gradd mewn disgyblaeth briodol
6. Aelodaeth Myfyrwyr o leiaf o Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (rhoddir cymorth i gael aelodaeth RTPI)
7. Trwydded yrru lawn, ddilys a defnydd o gar
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 17 Chwefror 2025.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Cynllunio Technegol, Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio, Swyddog Cefnogi Cynllunio, Swyddog Gorfodi Cynllunio, neu Swyddog Polisi Cynllunio.
Felly, os ydych yn chwilio am gyfle newydd fel Swyddog Cynllunio, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
#J-18808-Ljbffr