Rydym yn chwilio am Beiriannydd Seilwaith i ymuno â'n hadran TGCh
brysur yng Nghonwy.
Gan weithio fel rhan o'r Tîm TGCh, byddwch yn cynorthwyo'r tîm ym mhob
agwedd ar gefnogaeth a datblygiad, yn ogystal â darparu arbenigedd,
profiad a syniadau technegol. Gan ddefnyddio eich gwybodaeth am
Systemau Gweithredu Microsoft, amgylcheddau rhithwir a thechnolegau
cysylltiedig, byddwch yn dod yn rhan o dîm sy'n cefnogi gweinyddwyr,
meddalwedd, rhwydweithiau a phrosiectau sy'n caniatáu i'r Gwasanaeth
wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag
ef.
Fel peiriannydd seilwaith, byddwch yn gweithio'n annibynnol ar dasgau
a gefnogir gan dîm clos sy'n rhannu gwybodaeth ac arfer gorau.
Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gydag ymagwedd sy'n canolbwyntio
ar y cwsmer i helpu i ddatblygu perthnasoedd cadarn gyda
chydweithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid i sicrhau dealltwriaeth wrth
ddarparu cymorth neu hyfforddiant.
Dylai ymgeiswyr nodi bod y tîm wedi'i leoli yng Nghonwy ond mae natur
y rôl yn golygu y gallai fod angen i chi weithio mewn gwahanol leoliadau
gwasanaeth tân er mwyn gosod, cynnal a datrys problemau TGCh, felly
efallai y bydd angen teithio i leoliadau eraill gan ddefnyddio cerbyd
Gwasanaeth.
Bydd hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y rota ar alwad,
ac ar ôl dechrau, bydd hyn yn denu'r lwfans ychwanegol o 8.5%.
Fel sefydliad dwyieithog, bydd angen sgiliau Cymraeg Lefel 2 ar yr
ymgeisydd llwyddiannus.
Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar wiriad Fetio Personél Heddlu
Gogledd Cymru (NPPV) a geirda boddhaol. Am fwy o fanylion am y rôl,
cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i:
recruitment@northwalesfire.llyw.cymru