Mae’r curaduron yn chwarae rhan ganolog wrth ddatgelu straeon am bobl a lleoedd trwy gyfrwng y gweithiau yn y casgliad cenedlaethol. Byddwn ni’n ceisio pennu blaenoriaeth adrannau o’r casgliad crefftau i'w hailarddangos a'u hailddehongli. Bydd y rôl hon yn ganolog wrth ymchwilio a nodi llwybrau ar gyfer gwneud y casgliad crefft yn berthnasol i bobl o bob oed, cymuned a phrofiad, a hynny yng nghyd-destun dwy flaenoriaeth strategol i Amgueddfa Cymru:
1. Rhannu'r casgliad
2. Dad-drefedigaethu'r casgliad
Y rôl hon yw'r unig rôl yn y tîm Celf sy’n canolbwyntio’n unswydd ar y casgliad crefft. Ar ben cyfrannu at ddull o ddatblygu a chyflawni sy'n gefnogol i'r ddwy ochr, ar draws arbenigeddau'r adran, bydd yna gyfle i gydweithio ar ymagweddau cyffredin at ddatblygiadau digidol, partneriaethau ac ymgysylltu.
#J-18808-Ljbffr