Welcome Manager / Rheolwr Croeso - Ceredigion Summary INTERNAL APPLICANTS ONLY PLEASE We have an exciting opportunity to lead a small team of welcome staff and volunteers at property. As Welcome Manager, you'll head up the staff & volunteer team, on nominated weekends and bank holidays, to welcome our visitors and help them enjoy their visit. As the most senior person on site, you will lead and empower your team to respond to customer enquiries and site issues and be the face of the National Trust. This is a fixed term contract due to end when the previous employee returns from maternity leave. At this point we cannot confirm exactly how long this contract will last, but it is unlikely to be more than 10 months. YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG Mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain tîm bychan o wirfoddolwyr a staff croeso mewn eiddo. Fel Rheolwr Croeso, byddwch yn arwain y tîm o staff a gwirfoddolwyr, ar benwythnosau a gwyliau banc penodol, er mwyn croesawu ein hymwelwyr a’u helpu i fwynhau eu hymweliad. Fel yr aelod uchaf o staff o ran statws ar y safle, byddwch yn arwain ac yn grymuso eich tîm i ymateb i ymholiadau cwsmeriaid a materion ar y safle, ac yn gweithredu fel wyneb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yno. Mae hwn yn gontract cyfnod penodol sy'n dod i ben pan fydd y gweithiwr blaenorol yn dychwelyd o absenoldeb mamolaeth. Ar hyn o bryd ni allwn gadarnhau pa mor hir y bydd y contract hwn yn para, ond mae'n annhebygol o fod yn fwy na 10 mis. What it's like to work here Llanerchaeron is a special place. We are a small, devoted team that welcomes over 50,000 visitors a year to this Georgian Villa, ornamental lake, walled gardens and farmyard. We benefit from working flexibly across departments, delivering an efficient and fun working environment. The visitor welcome team work both indoors and outdoors enjoying the difference each season brings. Together with our volunteers we bring exceptional service and have authentic conversations with every visitor. Sut brofiad yw gweithio yma Mae Llanerchaeron yn lle arbennig. Rydym yn dîm bychan a brwdfrydig, sy’n croesawu dros 50,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r Fila Sioraidd hon, ynghyd â’r llyn addurnol, gerddi muriog a buarth fferm. Rydym yn elwa o weithio’n hyblyg ar draws adrannau, yn cyflwyno amgylchedd gwaith hwyliog ac effeithlon. Mae’r tîm croesawu ymwelwyr yn gweithio yn yr awyr agored a dan do, yn mwynhau’r amrywiaeth o dymor i dymor. Ynghyd â’n gwirfoddolwyr, rydym yn cynnig gwasanaeth rhagorol ac yn cael sgyrsiau unigryw â phob un ymwelydd. What you'll be doing You’ll have overall responsibility for the team, and their safety and working practices, working closely with the Visitor Experience & Operations Manager to develop the site offer. You'll have responsibility for the day to day operation of the welcome area and ensure the delivery of the highest standards of service and visitor experience, using sound judgement and decision making, in line with National Trust guidelines and policies. You’ll be using your creativity and communication skills both to inspire and motivate your staff and volunteers, and to help provide the friendly face of the National Trust to thousands of visitors. You'll be applying your high level of competence to deal with service recovery without senior support being on site. You'll engage with all our visitors to inspire support through membership, and help visitors to enjoy their stay. Eich gwaith Chi fydd yn gyffredinol gyfrifol am y tîm, a’u diogelwch ac arferion gwaith, a byddwch yn gweithio’n agos â’r Uwch Reolwr Profiad Ymwelwyr i ddatblygu cynnig y safle. Byddwch yn gyfrifol am weithrediad yr ardal groeso o ddydd i ddydd ac yn sicrhau eich bod yn darparu’r safonau uchaf o wasanaeth a phrofiad ymwelwyr, gan ddefnyddio dyfarniad cadarn a’r gallu i wneud penderfyniadau cadarn, yn unol â chanllawiau a pholisïau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd i ysbrydoli ac ysgogi eich staff a gwirfoddolwyr, ac i helpu i gyflwyno wyneb cyfeillgar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i filoedd o ymwelwyr. Byddwch yn defnyddio eich lefel uchaf o allu er mwyn ymdrin ag adferiad gwasanaeth heb i gymorth uwch fod ar gael ar y safle. Byddwch yn ymgysylltu â’n holl ymwelwyr i ysbrydoli cymorth drwy aelodaeth, a helpu ymwelwyr i fwynhau eu hymweliad. Who we're looking for To deliver this role successfully, you'll need: Good practical experience in visitor business,in tourist, heritage or relevant visitor services environment Naturally curious about people, and with an enthusiasm to and experience of delivering the highest standards of customer service Excellent organisational skills Confident leader, adaptable and responsive under pressure Ability to initiate service recovery without senior support Good IT skills (all MS Office) Yr unigolyn rydym yn chwilio amdano Profiad ymarferol da mewn amgylchedd busnes ymwelwyr, twristiaeth, treftadaeth neu wasanaethau ymwelwyr perthnasol Yn naturiol chwilfrydig am bobl, ac yn frwdfrydig am ddarparu'r safonau uchaf posibl o wasanaeth cwsmeriaid, a phrofiad o hynny Sgiliau trefnu rhagorol Arweinydd hyderus, sy’n hyblyg ac yn ymatebol dan bwysau Y gallu i ddechrau ar y gwaith adfer gwasanaeth heb gymorth uwch Sgiliau TG da (pob rhaglen MS Office) The package The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too. Substantial pension scheme of up to 10% basic salary Free entry to National Trust properties for you, a guest and your children (under 18) Tax free childcare scheme Rental deposit loan scheme Season ticket loan Perks at work discounts i.e. gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria. Flexible working whenever possible Employee assistance programme Free parking at most locations Independent financial advice Click here to find out more about the benefits we offer to support you. Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun gofal plant di-dreth Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cyngor ariannol annibynnol Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.