PRIF SWYDDOG (CLERC Y CYNGOR) Cyflog: Graddfa LC4 (Pwyntiau 50-54 £62,377 i £70,065) Disgwylir codiad cyflog or 1af Ebrill AMSER LLAWN ( 37 AWR YR WYTHNOS) Mae Cyngor Tref Y Barri wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref, trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad y gymuned a llesiant ein trigolion. Ni ywr Cyngor Tref mwyaf yng Nghymru, ac mae gennym 22 o aelodau etholedig, ac fen gwasanaethir gan 30 aelod o staff. Maer Cyngor yn darparu gwasanaethau mynwent, maen rheoli dwy ganolfan gymunedol, llecynnau tir glas, ymgysylltu a digwyddiadau yn y dref. Wrth inni barhau n hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle ar gyfer gweithiwr proffesiynol ymroddedig i ymuno r Cyngor yn Brif Swyddog (Clerc y Cyngor). Gan weithio o swyddfar Cyngor Tref ynghanol Y Barri, bydd angen i ymgeisyddion allu arddangos casgliad deinamig o sgiliau, gan gynnwys y gallu i feddwl a gweithredun strategol, yn ogystal phrofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth a heriol. Bydd angen ichi allu deall cyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol, meddu ar wybodaeth ariannol gadarn a phrofiad o fod yn rheolydd llinell staff. Byddwch hefyd yn gorfod gallu cynrychiolir Cyngor yn llwyddiannus mewn trafodaethau gyda chyrff allanol. Mae sgiliau TG Office cymwys hefyd yn hanfodol. Byddwch yn atebol ir Cyngor yn ei grynswth, a byddwch yn brif ymgynghorydd ar bopeth yn ymwneud llywodraethiant er mwyn iddo allu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Byddwch yn chwarae rl allweddol yn cynghori ar ac yn cefnogir gwaith o lunio polisau, ac yn sicrhau y caiff penderfyniadaur Cyngor eu gweithredun effeithiol. Mae disgwyl y bydd gennych, neu y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol priodol (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol neu gymhwyster cyfatebol). Bydd disgwyl hefyd ichi ymrwymo ich datblygiad proffesiynol parhaus. Hefyd, bydd angen ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gydar nos ac ambell benwythnos yn l y galw. Maer gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol. Er mwyn cael rhagor o fanylion am y swydd gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais, ewch in gwefan yn: Ni dderbynnir dogfennau CV. DYDDIAD CAU: Ganol nos ar yr 2il Mai 2025 Mae Cyngor Tref Y Barri yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac maen croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.