Summary Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a hyderus i oruchwylio’r fynedfa i'r traeth ym Mhorthdinllaen dros dymor yr haf. Os ydych chi wrth eich bodd â’r arfordir, yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored a sgwrsio â phobl, gallai’r swydd hon fod yn berffaith i chi. Byddai wythnos waith arferol yn cynnwys gweithio rhwng 10am-4pm 5 diwrnod yr wythnos (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Cytundeb Cyfnod Penodol hyd at fis Medi 2025. Noder, mae’r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cyfweliadau i'w cynnal wythnos yn dechrau 28 Ebrill Ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi gwblhau ein hasesiad ar-lein yn hytrach na defnyddio CV neu ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall mwy am eich cryfderau ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y rôl. What it's like to work here Sut brofiad yw gweithio yma? Mae Porthdinllaen yn lleoliad adnabyddus ym Mhenrhyn Llyn sy’n denu miloedd o ymwelwyr i ymlacio ar y traeth, cerdded y llwybrau cerdded arfordirol neu fentro i’r dwr, wrth fwynhau’r lleoliad hardd a’r Ty Coch enwog. Mae’n lleoliad â hanes hynod o gyfoethog a dynodiadau cadwraeth natur pwysig fel Pen Llyn ac Ardal Gadwraeth Arbennig Sarnau. Mae hefyd yn gartref i un o’r gwelyau morwellt mwyaf yng Nghymru. Mae harbwr Porthdinllaen yn rhoi cysgod rhag y tonnau a’r gwynt heblaw’r adegau pan ddaw’r gwynt o’r gogledd-ddwyrain. Mae gan yr ardal harbwr mewnol tua 40 angorfa, gyda thua 80 angorfa yn yr ardal harbwr allanol. Mae fflyd fach o gychod pysgota’n gweithio o bentref Porthdinllaen, ac mae'r bae’n cael ymweliadau cyson gan gychod gan gynnwys cychod hwylio, cychod pwer, cychod dwr personol a chychod padlo. Yn achlysurol gall cychod masnachol angori mewn dwr dyfnach yn ardal allanol yr harbwr. Mae mynediad i gychod sy’n cael eu lansio gan drelar ar gael ym Morfa Nefyn. Porthdinllaen | Llyn Peninsula | Cymru | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol What you'll be doing Beth fyddwch chi’n ei wneud? Yn atebol i'r Rheolwr Croeso, yn bennaf, bydd eich swydd yn cynnwys ymgysylltu ag ymwelwyr a sicrhau croeso cynnes i Borthdinllaen. Fel wyneb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen, byddwch yn ateb ymholiadau, hyrwyddo ein gwaith a darparu gwybodaeth er mwyn gwella profiadau ymwelwyr. Byddwch yn cynnal safonau cyflwyno uchel drwy gasglu sbwriel yn ddyddiol a sicrhau bod y traeth yn rhydd rhag peryglon. Diogelwch yw ein blaenoriaeth. Bydd eich swydd yn cynnwys hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o’r ardal hon a chynghori’r cyhoedd ar bolisïau a deddfau arfordirol lleol. Wedi’ch lleoli wrth y fynedfa i draeth Morfa Nefyn yn bennaf, byddwch yn goruchwylio lansiad cychod, gan sicrhau eu bod wedi cofrestru a chasglu ffioedd lansio. Yn ogystal, efallai y bydd eich dyletswyddau pellach yn cynnwys goruchwylio ardal y traeth ehangach, maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phentref Porthdinllaen yn ôl yr angen. Nod y Prosiect Morwellt Porthdinllaen yw diogelu'r morwellt yn y bae. Byddwch yn diweddaru eich hun ar y prosiect ac yn gallu siarad am eu gwaith gydag aelodau o'r cyhoedd. Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian hanfodol i ofalu am dreftadaeth ein hymddiriedolaeth. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni targedau recriwtio aelodaeth. Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil swydd llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon. Who we're looking for Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os: ·ydych yn unigolyn sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth gwych, ·yn gallu gweithio mewn tîm, ond hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol ·ydych yn hynod drefnus ac yn meddu ar agwedd hyblyg ·ydych yn unigolyn sy'n barod i ddysgu sgiliau newydd ·oes gennych agwedd gadarnhaol The package Y pecyn Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.