Rydym yn chwilio am weithiwr cyfreithiol proffesiynol profiadol ac egniol i ymuno â’n tîm fel Prif Ymgynghorydd Cyfreithiol a Swyddog Monitro ar gyfer ein Gwasanaeth a’n Comisiynwyr. Yn y rôl ganolog hon, byddwch yn darparu cyngor a chymorth cyfreithiol arbenigol i sicrhau y gwneir penderfyniadau effeithiol, gan gynnal safonau llywodraethu uchel, a sicrhau bod rhwymedigaethau statudol yn cael eu bodloni. Byddwch yn cynghori ar yr holl ddogfennau cyfreithiol ac yn eu gweithredu gan weithio ar y cyd ag uwch arweinwyr, gan gynnwys y Prif Swyddog Tân a’r Trysorydd, i gynnal llywodraethu cryf. Fel aelod gweithgar o’r Tîm Arwain, byddwch yn cyfrannu at gyfeiriad strategol y Gwasanaeth ac yn helpu i gyflawni amcanion corfforaethol, yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol ac arfer gorau ar draws yr holl swyddogaethau.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar radd gyntaf (neu gymhwyster cyfwerth), yn Gyfreithiwr neu Fargyfreithiwr wrth eu gwaith, gyda phrofiad sylweddol o weithio yn y sector cyhoeddus. Bydd gennych ddealltwriaeth ddofn o ddeddfwriaeth llywodraeth leol, llywodraethu corfforaethol, a rôl y Swyddog Monitro, ynghyd â hanes profedig o weithredu ar lefel uwch, gan ddylanwadu ar wneud penderfyniadau a datblygu polisi. Byddwch yn fedrus wrth reoli timau sy'n perfformio'n dda a chyllidebau cymhleth, gyda'r gallu i weithio'n effeithiol ar draws ffiniau sefydliadol. Rydym yn chwilio am rywun â sgiliau cyfathrebu a thrafod rhagorol, a all ddarparu cyngor a chymorth pragmatig, rheoli prosesau corfforaethol allweddol, yn ogystal â hyrwyddo amgylchedd gwaith cadarnhaol, cynhwysol ac adeiladol.