This job is with BBC, an inclusive employer and a member of myGwork – the largest global platform for the LGBTQ business community. Please do not contact the recruiter directly. Job Band C YNGLŶN BBC STUDIOS Mae BBC Studios yn stiwdio cynnwys a busnes sianeli a ffrydio byd-enwog, gyda phŵer creadigrwydd o Brydain, a chyrhaeddiad sy'n cyrraedd cynulleidfaoedd ym mhob rhan o'r byd. Rydyn ni'n gweithio gyda thalentau creadigol eithriadol sy'n gyfrifol am gyfresi arloesol - o Strictly Come Dancing i Bluey, EastEnders, Prehistoric Planet a Planet Earth III. Mae amrywiaeth ac ansawdd ein cynnwys yn ddiguro, sy'n llwyddiant ymhlith y beirniaid ac yn fasnachol yn ogystal bod yn ffenomenau byd-eang. O BAFTAs i Wobrau'r RTS, BBC Studios yw cwmni cynhyrchu mwyaf llwyddiannus Prydain, a'r unig gynhyrchydd gyda thair o'r deg sioe fwyaf llwyddiannus ar IMDB; ni yw cartref bbc.com, y wefan newyddion Saesneg sy'n cael ei darllen amlaf yn y byd; a dosbarthwr mwyaf y DU o ran cynnwys Prydeinig. YNGLŶN 'N CYNYRCHIADAU DRAMA Mae Cynyrchiadau Drama BBC Studios yn adnabyddus am ddod chynulleidfaoedd at ei gilydd wythnos ar ôl wythnos. Ni yw'r pwerdy creadigol y tu ôl i ddramu llwyddiannus o EastEnders, Silent Witness, Father Brown a Sister Boniface i Casualty, River City, Pobol y Cwm ac Anfamol. Yn ogystal 'n brandiau eiconig, mae gennym strategaeth twf uchelgeisiol gyda rhestr o sioeau newydd a chyffrous wrthi'n cael eu datblygu. Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o'n tîm sy'n dod chynulleidfaoedd at ei gilydd wythnos ar ôl wythnos. Pobol y Cwm yw'r ddrama gyfres sydd wedi rhedeg hiraf a gynhyrchir ar gyfer y BBC. Fel rhaglen amlycaf S4C, mae'n portreadu bywyd ym mhentref dychmygol Cwmderi ac wedi gwneud hynny ers hanner canrif. Cartrefi'r cymeriadau a bywyd y pentref yw'r cefndir ar gyfer straeon cyffrous a gafaelgar gydag ambell ffrwydrad gweledol ac emosiynol ar hyd y ffordd. Yn adran Cynyrchiadau Drama BBC Studios, rydyn ni'n angerddol am ddatblygu a meithrin gweithlu creadigol ac amrywiol. Rydyn ni'n ymfalchïo mewn cynnig rhai o'r cyfleoedd hyfforddi golygyddol a chynhyrchu mwyaf cefnogol, ymarferol ar draws y DU gyfan. Y RÔL Oes gennych wybodaeth dda am ddramu teledu Cymraeg? Ydych chi'n gweithio ym maes theatr, teledu neu radio Cymraeg, neu chefndir yn myd y theatr Gymraeg, sydd diddordeb mewn ysgrifennu creadigol, storïo neu sgriptio? Pobol y Cwm yw'r ddrama gyfres sydd wedi rhedeg hiraf a gynhyrchir ar gyfer y BBC. Fel rhaglen amlycaf S4C, mae'n portreadu bywyd ym mhentref dychmygol Cwmderi ac wedi gwneud hynny ers bron i hanner canrif. Cartrefi'r cymeriadau a bywyd y pentref yw'r cefndir ar gyfer straeon cyffrous a gafaelgar gydag ambell ffrwydrad gweledol ac emosiynol ar hyd y ffordd. Ar Pobol y Cwm, y Golygyddion Sgriptiau sy'n pontio rhwng yr awduron a'r tîm cynhyrchu. Maen nhw'n cynnig cymorth i ddatrys problemau ymarferol a chreadigol, yn rhoi adborth a nodiadau i'r awduron ac oddi wrth yr awduron, yn cefnogi'r broses storïo, ac yn sicrhau cywirdeb golygyddol y sgriptiau. Gan adrodd i'r Cynhyrchydd Sgript, byddwch yn goruchwylio penodau - o'r syniad, y datblygu hyd at y ffilmio. Byddwch yn cynrychioli buddiannau'r awduron i'r tîm cynhyrchu, yn cynghori ar faterion sy'n ymwneud sgriptiau ac yn rheoli'r berthynas rhwng awduron a'r staff cynhyrchu. Rydym yn chwilio am bobl sydd diddordeb a gwybodaeth ym maes y ddrama deledu Gymraeg. Mae angen profiad o weithio yn y theatr, drama radio neu deledu, ynghyd sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a llafar cryf, a phrofiad o ysgrifennu creadigol neu ddiddordeb cryf ynddo. PRIF GYFRIFOLDEBAU Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys y canlynol:- • Cydweithio gydag awduron a'r Cynhyrchydd Sgript i greu sgriptiau a straeon clir, creadigol o'r safon uchaf, sy'n gyson gweledigaeth olygyddol y gyfres • Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Sgript i gyflwyno drama o ansawdd uchel, sy'n gost-effeithiol o fewn fframwaith Canllawiau Golygyddol y BBC a'r amcanion Corfforaethol • Mynychu cyfarfodydd sgriptiau a chyfleu nodiadau'r gyfres i'r awduron llawrydd • Mynychu ymarferion ac ymateb ar ran y gyfres i unrhyw sylwadau gan gyfarwyddwyr neu actorion • Annog, meithrin a datblygu talent a gallu creadigol ar ran Pobol y Cwm • Meddwl yn ddadansoddol • Symleiddio problemau cymhleth a'u gwerthuso'n systematig • Cyfathrebu - y gallu i fynegi syniadau'n glir ac addasu'r arddull gyfathrebu i anghenion pobl eraill drwy ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau a dulliau sy'n addas i'r gynulleidfa a natur y wybodaeth. Y gallu i ddeall effaith arddull gyfathrebu bersonol ar eraill • Deall effaith arddull cyfathrebu personol ar eraill. Mynegi syniadau'n glir ac addasu arddull cyfathrebu gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau a dulliau sy'n gweddu i'r gynulleidfa a natur y wybodaeth • Meddwl yn greadigol a gallu troi syniadau creadigol yn realiti ymarferol. Gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau cyfredol mewn ffyrdd newydd a chreu atebion creadigol • Cefnogi awduron a'r tîm cynhyrchu i ddod o hyd i atebion creadigol i broblemau a newidiadau munud olaf. • Dangos safbwynt cytbwys a gwrthrychol yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o friff comisiynu'r prosiect, gofynion y gynulleidfa, canllawiau ac amcanion y prosiect • Y gallu i greu a chynnal cydberthynas waith effeithiol ag amrywiaeth o bobl. Cydweithio ag eraill i fod yn rhan o dîm. • Creu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl. BETH MAE'N EI GYMRYD? • Profiad o weithio ym maes theatr, drama radio neu deledu mewn rôl debyg • Profiad o gynhyrchu syniadau creadigol a dod o hyd i atebion i broblemau creadigol ac ymarferol yn ymwneud chynhyrchu a pherfformio (h.y. cyfyngiadau cyllidebol, amserlennu, castio etc.) • Diddordeb ym myd y ddrama Gymraeg - awduron, cynyrchiadau teledu, theatr, drama radio. Gwybodaeth a diddordeb mewn ysgrifennu creadigol a/neu ysgrifennu sgriptiau drwy gyfrwng y Gymraeg • Sgiliau cyfathrebu, negodi, dylanwadu a pherswadio cryf ac enghreifftiau o ba bryd rydych chi wedi dibynnu arnyn nhw i gwblhau prosiectau • Barn olygyddol gref a greddf a ddangoswyd mewn rolau yn y gorffennol • Ymwybyddiaeth o goblygiadau ariannol penderfyniadau golygyddol • Sgiliau ysgrifenedig a llafar cryf yn Gymraeg • Brwdfrydedd a diddordeb ym myd y ddrama deledu Gymraeg, gan gynnwys Pobol y Cwm Beth yw Cronfa Dalent Golygydd Sgriptiau Pobol y Cwm? Mae cronfa dalent y Golygydd Sgriptiau yn gyfle i ni estyn allan ac ymgysylltu phobl sydd eisiau gweithio ar Pobol y Cwm. Unwaith y byddwch yn y gronfa, byddwn yn eich ystyried ar gyfer cyfleoedd am Olygydd Sgriptiau ar Pobol y Cwm yn ystod y 12 mis nesaf - felly nid oes rhaid i chi fod ar gael ar unwaith i wneud cais. Os cewch eich dewis yn llwyddiannus i fod yn y gronfa dalent nid yw'n golygu y byddwch yn bendant yn gweithio gyda ni yn anffodus. Mae bod yn y gronfa yn golygu y byddwch yn cael eich ystyried pan fydd cyfleoedd yn codi. Pan fyddwn yn cyflogi o gronfa dalent gallwn naill ai ddewis pobl sydd 'r union sgiliau a phrofiad sydd eu hangen ar gyfer cyfle penodol - neu agor y cyfle i rai neu'r holl gronfa dalent. Efallai y bydd achlysuron hefyd pan fydd angen i ni hysbysebu'n ehangach a rhyddhau cyfleoedd i'r farchnad gyffredinol. Os cewch eich gwahodd i weithio ar Pobol y Cwm, bydd angen i chi fod wedi'ch lleoli yng Nghaerdydd am gyfnod y contract, neu fyw o fewn pellter cymudo. Yn anffodus nid ydym yn darparu cymorth ariannol ar gyfer hyn nac yn talu costau. BYWYD YN BBC STUDIOS Yma, rydyn ni'n hyrwyddo diwylliant cynhwysol sy'n cyd-fynd 'n Haddewid, gan feithrin amgylchedd lle gallwch ryddhau eich creadigrwydd, wrth fynd ar drywydd cynnwys beiddgar. Gan gydweithio rhai o dalentau disgleiriaf y diwydiant, cewch gyfle i adael eich argraff ar filiynau o wylwyr ledled y byd. Ac ar ben hynny? Mae digon o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa gyda ni hefyd, mae meithrin a datblygu talent yn rhan annatod o'n DNA - byddem wrth ein bodd petaech yn rhan ohono. Nid ydym yn canolbwyntio ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn unig - rydyn ni hefyd yn poeni sut rydyn ni'n ei wneud. Mae ein gwerthoedd a'r ffordd rydyn ni'n ymddwyn yn bwysig i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a'n hymddygiad fan hyn. Mae'r BBC wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu sy'n ddiwylliannol amrywiol, sy'n cynrychioli'r cynulleidfaoedd rydyn ni'n eu gwasanaethu, ac sy'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr o unrhyw gefndir, yn enwedig pobl o gymunedau amrywiol. Mae cyfle cyfartal yn bwysig i ni, ac rydyn ni'n ymdrechu i wneud ein prosesau yn gyfartal, yn deg ac yn feritocrataidd i bawb. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ein cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant fan hyn. Mae BBC Studios yn rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn ar y sgrin ac oddi ar y sgrin, gan gynnwys cyflawni yn erbyn targedau Sero Net Grŵp y BBC sy'n seiliedig ar wyddoniaeth. Gellir cael mwy o wybodaeth am gynaliadwyedd yn BBC Studios fan hyn. Rydyn ni'n falch o rannu ein bod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi er mwyn gwneud cais, cysylltwch ni ar reasonable.adjustmentsbbc.co.uk DISGRIFIAD O'R PECYN Cyfeirnod y swydd: 21467 Contract: Cronfa Dalent Lleoliad: Stiwdios Porth y Rhath, Caerdydd CAMAU NESAF Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich diddordeb yn y swydd hon ac yn deall pa mor bwysig yw'r cyfle hwn i chi. Oherwydd y lefel uchel o ddiddordeb mae'n bosib y bydd angen i ni gau'r cyfnod ymgeisio yn gynt na'r disgwyl. Mae'r cam hwn yn angenrheidiol i sicrhau y gallwn ddarparu lefel uchel o sylw a gwasanaeth i bob ymgeisydd. Diolch am eich dealltwriaeth. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon bydd angen i chi fod yn 18 oed o leiaf ar ddechrau eich cyflogaeth. LI-DNI