Cyfarwyddwr y Ganolfan, Sefydliad Ymchwil Dementia MRC UK yng Nghaerdydd, Cadair mewn Niwrowyddoniaeth, Clinigol neu Anghlinigol Yr Ysgol Meddygaeth Mae Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI) y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn dymuno penodi academydd profiadol rhagorol i Gadair newydd mewn Niwrowyddoniaeth ac arwain Canolfan MRC UK DRI yn yr Ysgol Meddygaeth yng Nghaerdydd. Caiff y penodiad â daliadaeth ei wneud ar lefel Athro Clinigol neu Anghlinigol. Rydym yn chwilio am wyddonydd a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sy'n gweithio mewn unrhyw faes sy'n berthnasol i genhadaeth gyffredinol MRC UK DRI, sef "Gwella dealltwriaeth o fecanweithiau clefydau a nodi targedau therapiwtig ar gyfer dementia a mathau eraill o niwroddirywiad". Mae hyn yn cynnwys bioleg nodweddion ymddygiadol a seiciatrig dementia. Sefydliad Cenedlaethol yr MRC dan arweiniad yr Athro Siddharthan Chandran yw MRC UK DRI, sy'n cynnwys wyth Canolfan yn y DU, gyda phob un dan arweiniad Cyfarwyddwr, a hynny mewn chwe phartner Prifysgol lletyol; Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caeredin, Coleg Imperial Llundain a Choleg y Brenin Llundain. Amcan sylfaenol yr UK DRI yw trawsnewid trwy ymchwil darganfod y rhagolygon i bobl sy'n byw gyda dementia neu sydd mewn perygl o ddementia ac anhwylderau niwroddirywiol cysylltiedig. Ein prif gyllidwr yw'r MRC. Mae partneriaid cyllido mawr eraill yn cynnwys Sefydliad Prydeinig y Galon, LifeArc, Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer UK. Mae’r UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd wedi'i leoli yn adeilad blaenllaw'r brifysgol, Adeilad Hadyn Ellis, ac mae'n cynnwys wyth Arweinydd Grŵp, dau Arweinydd sy'n Dod i'r Amlwg a nifer o Gymrodorion, Cymdeithion a Chyd-ymchwilwyr. Mae'r ymchwil gyfredol yn cynnwys portffolio eang yn rhychwantu astudiaethau genetig ar raddfa fawr, biowybodeg ac 'omeg o'r radd flaenaf, modelu clefydau mewn cnofilod, pryfed a chelloedd ymennydd iPS, dadansoddiad manwl o fecanwaith clefydau a manteisio ar ganfyddiadau mecanistig ar gyfer datblygu dulliau newydd o brofi a thrin clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, clefyd Huntington ac anhwylderau niwroddirywiol eraill. Mae’r UK DRI yng Nghaerdydd yn ganolog i gymuned niwrowyddoniaeth leol eithriadol, sy'n cynnwys: • Delweddu ymennydd sy'n arwain y byd yn CUBRIC (https://www.cardiff.ac.uk/cy/cardiff-university-brain-research-imaging-centre) a PETIC (https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-research-diagnostic-pet-imaging-centre); • Arloesi ar gyfer therapi celloedd a chyffuriau mewngreuanol yn Uned BRAIN (https://brain.wales/cy/); • Dulliau newydd o ddarganfod cyffuriau clefyd niwroddirywiol a niwroseiciatrig yn MDI (https://www.cardiff.ac.uk/cy/medicines-discovery); • Ymchwil Seiciatrig sy'n arwain yn rhyngwladol yn CNGG ac NMHII (https://www.cardiff.ac.uk/cy/centre-neuropsychiatric-genetics-genomics/research; https://www.cardiff.ac.uk/cy/neuroscience-mental-health/research); • Ymchwil niwro-lid eithriadol yn SIURI (https://www.cardiff.ac.uk/cy/systems-immunity) Y Swydd Bydd Cyfarwyddwr y Ganolfan yn aelod o Dîm Arweinyddiaeth Uwch MRC UK DRI. Ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Cenedlaethol a Chyfarwyddwyr Canolfannau eraill, bydd yn gosod y cyfeiriad a'r weledigaeth wyddonol gyffredinol ar gyfer UK DRI ym maes eang "Deall mecanweithiau clefydau a nodi targedau therapiwtig ar gyfer dementia a mathau eraill o niwroddirywiad". Yr amcan cyffredinol fydd ysgogi rhagoriaeth ymchwil a manteisio ar gryfderau strategol yng Nghaerdydd. Bydd hefyd yn cyfarwyddo rhaglen ymchwil gystadleuol ryngwladol bersonol mewn dementia neu niwroddirywio ac yn arweinydd gwyddonol yn y gymuned UK DRI, gan gyfrannu at lwyddiant a thwf yr UK DRI fel un Sefydliad MRC Cenedlaethol. Fel Athro ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y Cyfarwyddwr yn cyfrannu at gymuned ffyniannus sydd ar flaen y gad o ran ymchwil ac addysgu sy'n arwain y byd. Bydd rhaglen ymchwil y Cyfarwyddwr yn cyfrannu at waith ehangach yr Ysgol Meddygaeth a bydd yn cael cyfle i addysgu ar gyrsiau perthnasol. Os yw'r sawl a benodir yn Academydd Clinigol, rydym yn rhagweld y byddwn yn eu cefnogi i gynnal eu sgiliau clinigol a byddwn yn gweithio gydag un o'n partneriaid GIG lleol i hwyluso hyn. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio sy’n cynnig llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw. Swydd amser llawn a phenagored yw hon ac mae modd dechrau ar unwaith. Cyflog : Telir yr ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt i'w drafod ar Raddfa Gyflog briodol Prifysgol Caerdydd yn seiliedig ar gymwysterau, sgiliau a phrofiad. Mae rhagor o wybodaeth am y rôl ar gael yn https://www.ukdri.ac.uk/vacancies/centre-director-uk-dri-cardiff I wneud ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â: Yr Athro Paul Morgan, Cyfarwyddwr Dros Dro, UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd: MorganBPcardiff.ac.uk I ymgeiswyr sy'n gwneud cais am y swydd fel Athro Clinigol, sylwer y bydd angen i'r Coleg Brenhinol perthnasol gymeradwyo'r disgrifiad swydd (yn dibynnu ar arbenigedd yr ymgeisydd llwyddiannus). Dyddiad cau: Dydd Iau, 20 Mawrth 2025 Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd Disgrifiad o’r Swydd Prif swyddogaeth Byddwch yn gweithio gyda'r Ysgol Meddygaeth i ddatblygu gweithgareddau ymchwil yr UK DRI. Mae'r swydd ar gael i rywun sydd â record academaidd sefydledig mewn ymchwil ac arweinyddiaeth. Bydd gofyn i Gyfarwyddwr y Ganolfan wneud y canlynol: Arweinyddiaeth • Darparu arweinyddiaeth a gweledigaeth wyddonol gref i’r UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd a chymuned ehangach UK DRI. • Datblygu, gyda'r Cyfarwyddwr Cenedlaethol, hunaniaeth wyddonol gref ar gyfer yr UK DRI yng Nghaerdydd. • Mynd ati i gynnal a meithrin y berthynas rhwng yr UK DRI yng Nghaerdydd a Phrifysgol Caerdydd. • Meithrin amgylchedd rhyngweithiol a chefnogol ar gyfer cydweithio o fewn Prifysgol Caerdydd, ar draws rhwydwaith yr UK DRI ac yn ehangach. Parhad o'r Disgrifiad Swydd isod Arweinyddiaeth (parhad) • Creu Canolfan gynhwysol a chroesawgar drwy hyrwyddo tegwch ar draws pob maes, gan gynnwys recriwtio, datblygu pobl, a gweithgareddau cydweithio. • Creu amgylchedd ysgogol o fewn yr UK DRI yng Nghaerdydd sy'n meithrin amrywiaeth a thalent, yn annog arloesedd ac yn cefnogi rhagoriaeth. • Rheoli'r gofynion adnoddau sydd eu hangen i gynnal yr UK DRI yng Nghaerdydd, gan gynnwys y staffio a'r seilwaith sydd eu hangen i ddatblygu'r rhaglenni ymchwil a sicrhau llwyddiant. • Gyda chymorth gweithredol, cynnal trosolwg a chyfrifoldeb am recriwtio, rheoli, hyfforddi a datblygu gyrfa staff y Ganolfan, gan gynnwys rheoli llinell a rheoli perfformiad, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r UK DRI a Phrifysgol Caerdydd. • Goruchwylio gwyddoniaeth, logisteg, cyllid a phersonél y Ganolfan, a derbyn cyfrifoldeb yn y pen draw am ddatblygu talent, rheolaeth ariannol, a pherfformiad cyffredinol y Ganolfan. • Cyfarwyddo gweithgareddau'r Ganolfan drwy oruchwylio rhai prosiectau'n bersonol a chynnal trosolwg o brosiectau a ddirprwywyd i aelodau eraill o staff. • Darparu'r egni deallusol a'r meddwl annibynnol angenrheidiol i arwain a chyflwyno rhaglen bersonol o ymchwil arloesol a llunio nodau a llwyddiant cyffredinol y Ganolfan. • Bod yn rhan o Dîm Cenedlaethol Arweinyddiaeth UK DRI. • Sicrhau bod holl ymchwil y Ganolfan yn cael ei chynnal yn unol ag arfer da ac â pholisïau a gofynion cyfreithiol UK DRI a Chaerdydd. • Lledaenu allbynnau ymchwil y Ganolfan drwy annog cyhoeddi canlyniadau, cyflwyniadau mewn cyfarfodydd gwyddonol ac ymateb i ymholiadau'r cyfryngau, gan weithio gyda thimau cyfathrebu Caerdydd ac UK DRI i sicrhau bod llwyddiannau'n cael cyhoeddusrwydd eang drwy'r holl gyfryngau addas. • Cyfathrebu ac ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y Llywodraeth, y wasg a'r cyhoedd. Ymchwil • Arwain rhaglen ymchwil bwysig sy'n berthnasol i ddementia yng Nghaerdydd, cynllunio cyfeiriad gwyddonol y rhaglen ymchwil, gan fynd i'r afael â chwestiynau allweddol o fewn cylch gwaith gwyddonol cyffredinol yr UK DRI a chymryd cyfrifoldeb am gyflwyno'r rhaglen ar gyfer adolygu cymheiriaid fel rhan o asesiad gwyddonol y Sefydliad ac yn unol â gweithdrefnau'r cyllidwr. • Datblygu portffolio ymchwil sy'n rhyng-gysylltu ac yn ategu’n glir y portffolio ymchwil cyfredol a strategaeth wyddoniaeth yr UK DRI yn y dyfodol. • Paratoi cyflwyniadau ar gyfer adroddiadau blynyddol ac adolygiad pum mlynedd yr UK DRI. • Datblygu portffolio o gyllid ymchwil sy'n berthnasol i ddementia gan gyrff dyfarnu eraill. • Dangos dealltwriaeth gref o genhadaeth yr UK DRI, diddordeb yn y gwaith ymchwil ac ymrwymiad cryf i gefnogi ymchwil o ansawdd uchel. • Cynhyrchu a rheoli cydweithrediadau yng Nghaerdydd, yn yr UK DRI, a gyda rhaglenni, cyrff, sefydliadau a chwmnïau allanol. • Cynnal persbectif eang, cytbwys a gwybodus ar faterion gwyddonol cyfredol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r maes ymchwil. • Cynrychioli UK DRI Caerdydd ar bwyllgorau a gweithgorau'r Brifysgol yn ôl yr angen. • Nodi a manteisio ar gyfleoedd i greu eiddo deallusol a manteisio ar botensial masnachol, gan gydweithredu wrth ddiogelu a datblygu patentau yn unol â pholisïau UK DRI Ltd a Chaerdydd. Mae’r Disgrifiad Swydd yn parhau yn yr adran gwybodaeth ychwanegol. Disgrifiad Swydd - parhad Ymchwil (parhad) • Datblygu rhyng-gysylltiadau â diwydiant i hwyluso trosi canlyniadau ymchwil y Ganolfan yn gyffuriau, dyfeisiau, gwasanaethau ac ymyriadau eraill i gleifion. • Cyfrannu at ymrwymiad yr UK DRI i feithrin ymwybyddiaeth y cyhoedd a chyswllt â’r UK DRI a'i genhadaeth drwy ymgysylltu â phobl y mae dementia yn effeithio arnynt a'r cyhoedd yn ehangach, a chyfleu cyffro ymchwil i'r cyhoedd mewn ffordd hygyrch sy'n helpu i godi proffil yr UK DRI. • Cyfrannu at gynnydd gwyddonol yn y maes drwy, er enghraifft, aelodaeth o bwyllgorau arbenigol, golygu cyfnodolion arbenigol a bod yn ganolwr i geisiadau cyllid. Addysgu • Cyfrannu, fel y bo'n briodol, at raglenni addysgu israddedig yng Nghaerdydd. • Dangos arweinyddiaeth academaidd o ran trefnu a chyflwyno addysg glinigol ac ymchwil. • Gweithredu fel hyfforddwr, mentor a model rôl i gydweithwyr iau. • Goruchwylio ymgeiswyr Meistr, MD a PhD. • Cyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm ar gyfer rhaglenni astudio perthnasol cyfredol ac yn y dyfodol. Arall • Cyfrannu at reolaeth a gweinyddiaeth effeithiol yr Isadran, yr Ysgol a'r Coleg yn y Brifysgol. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol sy'n ofynnol gan Gyfarwyddwr Cenedlaethol yr UK DRI ac Uwch Reolwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data a llywodraethu gwybodaeth, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau, gweithdrefnau a chodau ariannol a pholisïau eraill y Brifysgol fel y bo'n briodol. • Cyflawni dyletswyddau academaidd eraill yn achlysurol a thrwy gytundeb, nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n gyson â rôl uwch academydd. Ar gyfer apwyntiadau Clinigol yn unig: Cytunir ar gynllun swydd ar adeg penodi. Rhagwelir y gellid cynnwys hyd at 20% CALl o weithgareddau clinigol yr wythnos a byddai hyn cael ei drafod yn dilyn y cyfweliad â'r ymgeisydd llwyddiannus. Ar gyfer dyletswyddau clinigol (GIG) bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Cyfarwyddwr Clinigol, ac yn atebol yn broffesiynol i Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bydd yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn: • Meddu ar Drwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ac yn ei chynnal • Meddu ar gontract meddyg ymgynghorol er anrhydedd gydag Ymddiriedolaeth(au) perthnasol y GIG. • Darparu Gofal Clinigol Uniongyrchol a Gweithgareddau Proffesiynol Ategol, yn unol â gofynion y fersiwn diwygiedig o Gontract Meddygon Ymgynghorol Cymru • Darparu gwasanaeth a arweinir gan ymgynghorwyr, gan gynnwys clinigau cleifion allanol a gofal cleifion mewnol lle bo'n berthnasol, fel y cytunwyd gyda'r Cyfarwyddwr Clinigol perthnasol, drwy'r broses Cynllunio Swydd • Rhoi cyngor dros y ffôn a chysylltu â darparwyr gofal iechyd, ysbytai a thimau gofal sylfaenol eraill yn ôl yr angen • Goruchwylio a rheoli staff iau yn broffesiynol - mewn rhai amgylchiadau, gallai deiliad y swydd gael ei enwi’n oruchwyliwr clinigol sy'n gyfrifol am hyfforddiant i staff iau. • Cymryd rhan weithredol mewn archwiliad clinigol, mewn cysylltiad â chydweithwyr eraill ac yn unol â pholisi Ymddiriedolaeth y GIG ar weithredu llywodraethu clinigol • Cyfranogi'n weithredol mewn gweithgareddau Datblygu Proffesiynol Parhaus yn unol â chanllawiau Coleg Brenhinol y Meddygon ac mewn cytundeb â Phrif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth(au) GIG perthnasol MEINI PRAWF HANFODOL Ymgeiswyr Clinigol: 1. Cofrestriad llawn gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a Thrwydded i Ymarfer; 2. Aelodaeth/Cymrodoriaeth gyda Choleg Brenhinol perthnasol neu gyfwerth; 3. Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) neu gyfatebol ac ar Gofrestr o Arbenigwyr mewn maes perthnasol (neu o fewn 6 mis i fod yn gymwys i fod ar y Gofrestr) Pob Ymgeisydd: 1. Gradd ymchwil ôl-raddedig, MD neu PhD neu gymhwyster cyfatebol, sy'n berthnasol i'r maes ymchwil a amlinellir yn y disgrifiad swydd; 2. Hanes diamheuol parhaus a sylweddol o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion cenedlaethol a rhyngwladol a/neu allbynnau ymchwil mesuradwy eraill; 3. Enw da rhyngwladol sefydledig ym maes academaidd dementia neu feysydd ymchwil cysylltiedig; 4. Hanes diamheuol o sicrhau cyllid ymchwil cystadleuol ynghyd â phortffolio cryf o grantiau ymchwil; 5. Hanes diamheuol o arweinyddiaeth academaidd a strategol ar lefel uwch, gan gynnwys gallu diamheuol i ddatblygu partneriaethau a chydweithrediadau â phartneriaid Clinigol, Academaidd a Diwydiannol; 6. Sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio diamheuol, tystiolaeth o feithrin perthnasoedd a rheoli prosiectau’n llwyddiannus; 7. Dealltwriaeth a ategir gan dystiolaeth o bwysigrwydd effaith glinigol ymchwil sylfaenol. MEINI PRAWF DYMUNOL 1. Profiad o addysgu a goruchwylio meddygol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig; 2. Tystiolaeth o ymrwymiad i feithrin a chefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf; 3. Gallu diamheuol i drosi ymchwil yn brofion neu driniaethau newydd ar gyfer dementia. PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini Prawf Polisi’r Ysgol Meddygaeth yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylech ddangos eich bod yn ateb POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol, lle bo’n berthnasol. Yn rhan o’ch cais, gofynnir ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon/ei hatodi i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd yn y teitl. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw 19468BR Os na fydd ymgeiswyr yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fydd eu cais yn symud ymlaen. Mae'r Ysgol Meddygaeth yn croesawu derbyn CVs i ategu tystiolaeth o feini prawf y swydd.