Am Y Gwasanaeth Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes dros dro rhan-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. Am Y Swydd Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth gweinyddol i'r gwasanaeth a'r rheolwr ac yn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, ynghyd â’r gallu i gynnal systemau gwybodaeth busnes a data. Byddwch hefyd yn gallu gweithio i derfynau amser tynn a bod yn hyblyg iawn. Bydd gennych brofiad o weithio gyda systemau TG ac mae’r gallu i weithio fel aelod o dîm yn hanfodol. Gwybodaeth Ychwanegol Mae'r swydd hon dros dro tan 31 Mawrth 2026 Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Dirprwy Gyfarwyddwr/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau. Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Anna Frankiewicz ar 029 2053 7355. Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â. Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:- Canllawiau Gwneud Cais Gwneud cais am swydd â ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol:- Siarter y Gweithwyr Recriwtio Cyn-droseddwyr Nodyn Preifatrwydd Job Reference: PEO04317