Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth cymorth effeithlon ac effeithiol o ansawdd uchel (nid gofal personol) i bobl agored i niwed ag anghenion cymhleth gan gynnwys cam-drin domestig, defnyddio sylweddau a materion iechyd meddwl, sy'n byw ar Ynys Môn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn galluogi ac yn grymuso'r bobl y mae Stori yn eu cefnogi i lywio cyfeiriad eu bywydau, datblygu sgiliau newydd, ennill mwy o annibyniaeth a chymryd rheolaeth dros eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr wedi cael profiad mewn rôl debyg. Dylai ymgeiswyr feddu ar drwydded yrru lawn, cael mynediad at gerbyd a rhaid iddynt allu profi eu hawl i weithio yn y DU. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ym Mangor yn fuan ar ôl y dyddiad cau. Y Cwmni Os ydych chi'n hoffi gweithio yn rhywle lle rydych chi'n cael gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl bob dydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn chwilio am unigolion talentog i ymuno â'n tîm hapus a gweithgar. Gallai fod yn swydd rheng flaen sy'n darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn hytrach na gofal personol, neu mewn rôl cefnogi busnes. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig contractau llawn a rhan-amser, oriau gwaith hyblyg, hawl i wyliau gwell, tâl salwch galwedigaethol, pensiwn cwmni a hyfforddiant cynhwysfawr. The Benefits Benefit 4 Benefit 5 Benefit 6 Buddion Hawl I Gwyliau Gwell Rhaglen Cymorth i Weithwyr Diwrnod ‘Stori’ Ychwanego Cyflog Salwch Galwedigaethol Cynllun pensiwn Cyfeirio cynllun cyfaill Cynllun Cydnabyddiaeth Documents