See Cymru Differently Lead/Arweinydd Golwg Gwahanol ar Gymru Job description Department: Social Change Location: Wales Hours: 35 hours per week Contract: 3 years, fixed term Salary: £44,000-£48,000 per year RNIB Cymru's Social Change Team works to remove the barriers faced by blind and partially slighted people in everyday life. As the See Cymru Differently Lead you'll be part of an ambitious, creative and dynamic team. We've had a lot of success in Wales and we're looking for the right candidate to join our team, sharing in our ambition to make a world that works better for blind and partially sighted people. This is a full time, 3 year fixed term position, working hybrid with an expectation to be in our Cardiff office when required. About the Role You will lead the delivery of the "See Cymru Differently - Hiraeth" Project, funded by The National Lottery Community Fund. We aim to make Wales' National Parks and Landscapes, as well as other rural areas of the country, accessible for blind and partially sighted visitors and residents to ensure they are truly inclusive. We also aim to ensure that people living in remote rural areas and engaged in traditional occupations such as farming are aware of the importance of looking after their eyesight and how to access support should they need to. See Cymru Differently - Hiraeth represents a substantive partnership of organisations coming together to form one cross organisational. What we are looking for Substantial experience in delivering large, user-focussed, research or innovation projects from the front and deliver on time and on budget. Substantial experience of collaborative working with multiple senior stakeholders, some of whom may have different priorities, and keeping everyone on board, engaged and onside. Understanding of the barriers faced by blind and partially sighted people and the ability to communicate the challenges this brings to a wide variety of audiences. Knowledge of Welsh culture and socio-economic challenges unique to rural settings and farming communities. What We Offer RNIB prides itself on being a great place to work with a positive, progressive culture. We offer a wide range of benefits including 26 days of holiday per year (plus bank holidays) which rises with service, enhanced family friendly benefits, a contributory pension scheme with an employer contribution of up to 11% and a rewards platform with employee discounts across over 800 retailers. For more information on our available benefits, please visit our Benefits of Working at RNIB page. How to Apply If you'd like to apply for this opportunity, please apply online, uploading your CV and supporting statement, telling us how you meet the criteria in section 1 of the person specification. Closing date, midnight 16th Feb 2025. Arweinydd Golwg Gwahanol ar Gymru Adran: Newid Cymdeithasol Lleoliad: Cymru Oriau: 35 awr yr wythnos Cytundeb: 3 blynedd, cyfnod penodol Cyflog: £44,000-£48,000 y flwyddyn Mae Tîm Newid Cymdeithasol RNIB Cymru yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau a wyneba pobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol mewn bywyd bob dydd. Fel Arweinydd Golwg Gwahanol ar Gymru byddwch yn rhan o dîm uchelgeisiol, creadigol a deinamig. Rydym wedi cael llawer o lwyddiant yng Nghymru ac yn chwilio am yr ymgeisydd iawn i ymuno â'n tîm, gan rannu ein huchelgais i wneud byd sy'n gweithio'n well i bobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol. Mae hon yn swydd llawn amser, am gyfnod penodol o 3 blynedd, yn gweithio'n hybrid gyda'r disgwyliad i fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd pan fo angen. Yngl ŷ n â'r Swydd Byddwch yn arwain ar y gwaith o gyflawni'r Prosiect "Hiraeth - Golwg Gwahanol ar Gymru", a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ein nod yw gwneud Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru, yn ogystal ag ardaloedd gwledig eraill y wlad, yn hygyrch i ymwelwyr a thrigolion dall ac sydd â golwg rhannol er mwyn sicrhau eu bod yn wirioneddol gynhwysol. Rydym hefyd am sicrhau bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ac yn ymwneud â galwedigaethau traddodiadol fel ffermio yn ymwybodol o bwysigrwydd gofalu am eu golwg a sut i gael mynediad at gefnogaeth pe bai angen. Mae Hiraeth - Golwg Gwahanol ar Gymru yn cynrychioli partneriaeth sylweddol o sefydliadau sy'n dod at ei gilydd i ffurfio un traws-sefydliadol. Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano Profiad sylweddol o gyflawni prosiectau ymchwil neu arloesi mawr, sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, a chyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. Profiad sylweddol o weithio ar y cyd â nifer fawr o uwch randdeiliaid, y gallai fod gan rai ohonynt flaenoriaethau gwahanol, a chadw pawb yn gytøn ac yn gefnogol. Dealltwriaeth o'r rhwystrau a wyneba pobl ddall a phobl rhannol ddall a'r gallu i gyfleu'r heriau a ddaw yn sgil hyn i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd. Gwybodaeth am ddiwylliant Cymreig a heriau economaidd-gymdeithasol sy'n unigryw i leoliadau gwledig a chymunedau ffermio. Yr hyn yr ydym yn ei gynnig Mae RNIB yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn lle gwych i weithio gyda diwylliant cadarnhaol, blaengar. Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys 26 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (ynghyd â gwyliau banc) sy'n codi gyda gwasanaeth, buddion ar gyfer teuluoedd, cynllun pensiwn cyfrannol gyda chyfraniad cyflogwr o hyd at 11% a phlatfform gwobrau gyda gostyngiadau i weithwyr ar gyfer dros 800 o fanwerthwyr. Am ragor o wybodaeth am y buddiannau sydd ar gael, ewch i'n tudalen Buddiannau Gweithio RNIB. Sut i Ymgeisio Os hoffech ymgeisio am y cyfle hwn, gwnewch gais ar-lein, gan uwchlwytho eich CV a'ch datganiad ategol, gan ddweud wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf yn adran 1 o'r fanyleb person. Dyddiad cau: Hanner Nos 16 Chwefror