Mae gan Brook Street (UK) Ltd gyfle cyffrous ar gyfer Swyddogion Gweinyddol gyda'n cleient Sector Cyhoeddus blaenllaw Cofrestrfa Tir EF, Abertawe.
Mae Cofrestrfa Tir EF yn gwarchod perchnogaeth tir ac eiddo sy'n werth £8 triliwn, gan alluogi gwerth dros £1 triliwn o fenthyciadau personol a masnachol i gael eu gwarantu yn erbyn eiddo ar draws Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestr Tir yn cynnwys mwy na 26.5 miliwn o deitlau yn dangos tystiolaeth perchnogaeth ar gyfer mwy nag 89% o ehangdir Cymru a Lloegr.
Ein gweledigaeth yw: "Marchnad eiddo fwyaf blaenllaw yn y byd fel rhan o economi ffyniannus a dyfodol cynaliadwy."
Ein pwrpas yw: "Rydym yn gwarchod eich perchnogaeth tir ac yn darparu gwasanaethau a data sy'n cynnal marchnad eiddo effeithlon a gwybodus."
Rydym am benodi amryw o Swyddogion Gweinyddol i weithio yn y Gwasanaeth Cyflymu, lle byddwch yn gyfrifol am brosesu ceisiadau cyflymu cwsmeriaid o fewn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth Busnes. Derbynnir ceisiadau cyflymu trwy ffurflen cysylltu â ni/ffurflenni gwe Cofrestrfa Tir EF a negeseuon ebost.
Cyfrifoldebau allweddol
* Gweithio o'r ciw Cyflymu yn y system Dynamics CRM
* Cyrchu systemau Cofrestrfa Tir EF i wirio sefyllfa gyfredol cais
* Cymeradwyo neu wrthod ceisiadau Cyflymu yn seiliedig ar y dystiolaeth/rhesymau a gofnodwyd gan ddefnyddio gwybodaeth o'n Protocolau Trin Ymholiadau Cwsmeriaid
* Diweddaru'r system gwaith cais a symud ceisiadau o fewn ein system gwaith cais os yw'n ofynnol
* Darparu ymateb i gwsmeriaid yn dibynnu ar gymeradwyo/gwrthod cais gan ddefnyddio'n testun safonol o fewn Dynamics CRM
* Cadw i fyny â newidiadau i brosesau ac ymarferiad
Sgiliau allweddol
* Profiad o weithio fel aelod o dîm i gyflawni nodau cyffredin
* Sgiliau trefnu effeithiol a gallu blaenoriaethu gwaith
* Rhoi sylw manwl i fanylion a gallu llunio barn/gwneud penderfyniadau da yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael
* Sgiliau cyfrifiadurol da, profiad o ddefnyddio meddalwedd seiliedig ar Microsoft, gan gynnwys gwybodaeth o Outlook, Word, ac Excel
Meini Prawf Hanfodol
* 5 TGAU gradd C ac uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
* O leiaf blwyddyn o brofiad gweinyddu swyddfa
* Gallu trefnu llwyth gwaith prysur er mwyn darparu canlyniadau effeithiol yn brydlon
* Hyblygrwydd i wynebu galwadau sy'n newid fel sy'n ofynnol a blaenoriaethu a dirprwyo fel sy'n ofynnol
* Gallu cyfathrebu a gweithio'n effeithiol gydag eraill fel rhan o dîm
* Gallu gweithio ar eich liwt eich hunan i ddatrys problemau ac ymateb i eraill
* Gallu mabwysiadu agwedd gyfrifol at waith sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
* Sgiliau TGCh da
* Rhoi sylw da i fanylion
* Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Cewch y buddion canlynol:
* Hyfforddiant a chyfnod sefydlu llawn
* Gweithio gyda Sefydliad Sector Cyhoeddus blaenllaw sy'n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant
* Cyfle (ond heb ei warantu) i wneud cais am swyddi mewnol
* Cronni oriau gwyliau wrth ichi weithio
* Cymorth a mentora cefn swyddfa Brook Street (UK) Ltd
Yr oriau gwaith yw 37 awr yr wythnos rhwng yr oriau 8am - 5pm Llun - Gwener.
Y gyfradd tâl yw £12.74 yr awr.
Os hoffech wneud cais am y rôl hon, ebostiwch eich CV trwy'r cyswllt 'Gwneud Cais'.
Brook Street is proud to support the Armed Forces Covenant and as such, we guarantee to interview all candidates who are veterans or spouses/partners of military personnel, and who meet all the essential criteria for the vacancy.
As a Disability Confident Leader, and holder of the Gold Award status from the Defence Employer Recognition Scheme, Brook Street, as a supplier to the Public Sector Resourcing Framework (PSR), will offer you a guaranteed interview with a PSR Sourcer.
Should you identify as a candidate with a disability and/or as a veteran or spouse/partner of military personnel and meet all the essential criteria for the role, we encourage you to reach out to us via the Brook Street website. Here you will find a link to register your interest and state the role that you are interested in. We are committed to engaging with you.
In cases where we have a high volume of ex-military candidates/military spouses/partners, who meet all of the essential criteria, Brook Street will interview the best candidates from within that group.