Ysgoloriaeth Ymchwil Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) AHRC Prifysgol Nottingham gydag Amgueddfa Cymru
De Cymru Ewrop yr Iwerydd yn ystod yr Oesoedd Canol, tua 1000-1500 CE
Dyddiad dechrau: Hydref 2025
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 5pm, dydd Gwener, 30 Mai 2025
Cynhelir y cyfweliadau ar MS Teams ar ddydd Mawrth 24 Mehefin 2025
Bydd y myfyriwr wedi'i leoli yn Adran y Clasuron ac Archaeoleg Prifysgol Nottingham ac Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan yn y rhaglen o ddigwyddiadau Datblygu Cohort CDP a gweithgareddau eraill a drefnir ar gyfer myfyrwyr CDP gan yr AHRC, yn ogystal â hyfforddiant a datblygiad wedi'i ddarparu gan Academi Ymchwilwyr Prifysgol Nottingham a Chonsortiwm Diwylliant a Threftadaeth Cymru CDP.
Manylion y Project
Mae ymchwil ddiweddar ar gysylltiadau morwrol rhwng Prydain ac Ewrop yr Iwerydd (gan gynnwys Ffrainc ac Iberia) yn ystod yr Oesoedd Canol, ac ymgysylltiad morwrol yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol, yn awgrymu bod llawer mwy o ddefnydd o forffyrdd gan sbectrwm ehangach o bobl na'r hyn a werthfawrogwyd yn flaenorol. Mae cysylltiadau Cymreig wedi cael eu hastudio'n fanwl ar ddechrau'r cyfnod canoloesol ond mae tystiolaeth newydd yn dilyn cloddio a thystiolaeth ddamweiniol o'r cyfnod canoloesol hwyrach wedi cael sylw cyfyngedig. Trwy ddefnyddio'r data newydd o ddau ranbarth astudiaeth achos (y de-ddwyrain a'r de-orllewin), nod y project ysgoloriaeth ymchwil hwn yw darparu naratif newydd o ryngweithio rhwng De Cymru ac Ewrop yr Iwerydd rhwng 1000-1500 CE, yn seiliedig ar yr ystod lawn o gysylltiadau rhyngwladol a Phrydeinig sy’n amlwg bellach yn ystod yr oes drawsnewidiol hon. Rhoddir ffocws arbennig ar leoedd, natur a chyd-destunau cysylltiadau. Bydd gwrthrychau cludadwy (gwaith metel, darnau arian, cerameg) yn darparu'r data, yn bennaf o Amgueddfa Cymru, wedi'i ategu gan ddeunydd o amgueddfeydd rhanbarthol, a chofnodion CAH PAS/Heneb. Yn ystod y rhaglen bedair blynedd, bydd blynyddoedd 1 a 4 yn cael eu treulio ym Mhrifysgol Nottingham yn ddelfrydol; Bydd blynyddoedd 2 a 3 yn Amgueddfa Cymru. Arweinir y tîm goruchwylio gan Christopher P. Loveluck, Athro Archaeoleg Ewropeaidd yn ystod yr Oesoedd Canol, Prifysgol Nottingham; a Sian Iles, Uwch Guradur-yr Oesoedd Canol, Amgueddfa Cymru.
Manylion Dyfarniad yr Ysgoloriaeth Ymchwil
Mae grantiau hyfforddiant doethurol CDP yn ariannu ysgoloriaethau ymchwil amser llawn am 48 mis (pedair blynedd) neu gyfwerth yn rhan-amser hyd at uchafswm o 8 mlynedd. Bydd cyfleoedd lleoliad a datblygu, sydd i'w llunio mewn cydweithrediad â'r ymgeisydd llwyddiannus, yn cael eu hymgorffori yn y cyfnod cyllido hwn.
Mae'r dyfarniad yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y ffi cartref llawn amser. Lefel Ffioedd Dangosol Cynghorau Ymchwil y DU ar gyfer 2024/2025 yw £5.006*Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ymgeisio am nawdd ffioedd rhyngwladol ychwanegol trwy Academi Ymchwilwyr Prifysgol Nottingham os oes ganddynt statws rhyngwladol. Bydd gofyn i’r myfyriwr breswylio yn y DU tan y bydd y PhD wedi’i gwblhau.
Mae'r dyfarniad yn talu taliad blynyddol i bob myfyriwr, myfyrwyr cartref a rhyngwladol. Mae'r taliad hwn yn ddi-dreth, ac mae'n gyfwerth â chyflog blynyddol, sy'n galluogi'r myfyriwr i dalu costau byw. Isafswm Taliad Doethurol UKRI ar gyfer 2024/2025 yw £20,780 (gan gynyddu yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynhaliaeth CDP o £600 y flwyddyn.
Mae'r myfyriwr yn gymwys i dderbyn grant costau teithio a threuliau cysylltiedig ychwanegol yn ystod y project hefyd drwy garedigrwydd Consortiwm Treftadaeth Cymru CDP4 sy'n werth hyd at £400 y flwyddyn am bedair blynedd (48 mis).
Meini Prawf Cymhwysedd
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn agored i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol. Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol ddangos sut y byddant yn talu'r gwahaniaeth rhwng yr ysgoloriaeth ymchwil a ffioedd Ymchwil i Raddedigion (PGR) rhyngwladol. I gael eu hystyried yn fyfyrwyr cartref, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
* Bod yn ddinesydd y DU (bodloni gofynion preswylio), neu
* Bod â statws preswylydd sefydlog, neu
* Bod â statws preswylydd cyn-sefydlog (bodloni gofynion preswylio), neu
* Bod â chaniatâd amhenodol i aros neu gael mynediad
Gellir cyflawni'r project yn llawn amser neu'n rhan-amser.
Rydym eisiau annog yr amrywiaeth ehangaf o ddarpar fyfyrwyr i astudio ar gyfer ysgoloriaeth ymchwil CDP ac rydym wedi ymrwymo i groesawu myfyrwyr o wahanol gefndiroedd i wneud cais.
Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel Meistr perthnasol neu ddisgwyl derbyn cymhwyster o’r fath a/neu allu dangos profiad cyfatebol mewn lleoliad proffesiynol. Mae disgyblaethau addas yn hyblyg, ond gallent gynnwys archaeoleg ganoloesol neu hanes canoloesol. Croeswir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ond nid yw’n ofynnol ar gyfer yr ysgoloriaeth ymchwil hon. Ni fydd y myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff Amgueddfa Cymru.
DS Rhaid i bob ymgeisydd fodloni telerau ac amodau UKRI ar gyfer cyllido. Gweler:
Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys cwblhau cais ar ffurf dogfen Ms (defnyddiwch y ddolen uchod) a chyflwyno CV. Hefyd, bydd rhaid darparu dau eirda i gefnogi pob cais erbyn y dyddiad cau ymgeisio.
Gofynnwn i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen fonitro wirfoddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae pob ymateb yn ddienw.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaeth ymchwil, cysylltwch â'r goruchwyliwr arweiniol Professor Christopher Loveluck.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd. I gael rhagor o wybodaeth am y broses, neu i ofyn am addasiadau rhesymol, cysylltwch â AHRCPHD@nottingham.ac.uk.
#J-18808-Ljbffr