Closing Date: 29/01/2025 Group: Corporate Group Management Level: Senior Associate Job Type: Permanent Job Description: Bydd y rôl hon yn cau am 00:01 ar ddydd Mercher 29 Ionawr ac felly rydym yn eich cynghori i ymgeisio erbyn hanner nos ar ddydd Mawrth 28 Ionawr fan bellaf. Am sgwrs anffurfiol i drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach sydd gennych ynglŷn â’r rôl hon, mae croeso i chi gysylltu â Penodi ar 07385 502078. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i Penodi ar helopenodi.cymru. Gwybodaeth am Ofcom Ni yw rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU ac rydym yn gwneud gwaith hanfodol sy’n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad ledled y DU ac sy’n siapio sut byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd yn y dyfodol. Mae ein gwaith yn cynnwys popeth o ffonau a band eang i deledu, radio, y gwasanaeth post, a dyfeisiau di-wifr. Rydym hefyd yn ymgymryd â’r her o wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel. I’n helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, mae arnom angen pobl o bob cefndir, gyda sgiliau amrywiol ac wedi cael gwahanol brofiadau. Gwybodaeth am y tîm y byddwch chi’n rhan ohono Mae tîm Ofcom Cymru yn gweithio ar draws pob agwedd ar gylch gwaith Ofcom i gynrychioli Ofcom yng Nghymru a Chymru yn Ofcom drwy ddarparu mewnbwn a chyngor ar anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy ymgynghori’n helaeth ledled Cymru, drwy wrando ar y rhai sy’n ein cynghori a drwy gynnal digwyddiadau. Rydym hefyd yn gwneud hyn drwy’r cysylltiadau rhagorol rydym yn eu cynnal ag amrywiaeth eang o gynghorwyr a rhanddeiliaid ar draws Llywodraethau, busnesau, y sector gwirfoddol, grwpiau defnyddwyr, academyddion, gwleidyddion a rhanddeiliaid polisi cyhoeddus yng Nghymru. Mae Ofcom yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal yn ein gwaith yng Nghymru, lle bo hynny’n berthnasol. Credwn fod ein dull gweithredu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â materion cyfathrebu yn yr iaith o’u dewis. Pwrpas a hyd a lled y rôl Gan weithio fel rhan o dîm Ofcom Cymru ac ar draws cylch gwaith rheoleiddio Ofcom, mae’r Rheolwr Materion Rheoleiddiol yn cefnogi Cyfarwyddwr Cymru i gynrychioli Cymru yn Ofcom ac Ofcom yng Nghymru drwy ddarparu mewnbwn a chyngor ar anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru. Er y byddwch yn gweithio ar draws cylch gwaith rheoleiddio Ofcom, bydd y rôl hon yn canolbwyntio’n benodol ar adeiladu a threfnu cefnogaeth gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru o amgylch ein cylch gorchwyl Diogelwch Ar-lein. Mae’r rôl hon yn gyfle i lunio a diffinio rhan hanfodol o’n gwaith ac i gydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws Ofcom ac yng Nghymru i ddatblygu ein cysylltiadau â rhanddeiliaid a’n hymgysylltiad o fewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym. Mae tîm Ofcom Cymru yn croesawu gweithio hyblyg ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n rhannu swydd a gweithwyr rhan amser. Eich Prif Gyfrifoldebau Byddwch yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Ofcom i fewnbynnu a chynghori ar y ffordd y mae gwasanaethau cyfathrebiadau yn cael eu darparu a'u derbyn yng Nghymru er mwyn dylanwadu ar ein prosesau polisi a gwneud penderfyniadau. Goruchwylio a chydlynu perthnasoedd â rhanddeiliaid a sefydliadau proffil uchel yng Nghymru, gan gynnwys siarad ar ran Ofcom, er mwyn sicrhau bod ein cyfrifoldebau a'n cylch gorchwyl DU cyfan yn cael eu deall yn llawn. Nodi cyfleoedd a strategaethau ymgysylltu priodol er mwyn helpu i adeiladu a rhoi ar waith perthnasoedd a phartneriaethau cynhyrchiol gyda rhanddeiliaid yng Nghymru. Paratoi papurau briffio a mynychu cyfarfodydd lefel uchel ag aelodau o uwch dîm rheoli Ofcom a gwleidyddion allweddol (a rhanddeiliaid eraill) yn ôl yr angen, gan ddefnyddio gwybodaeth am y dirwedd wleidyddol ehangach yng Nghymru i helpu i lunio’r agenda a rheoli enw da Ofcom. Meithrin a chynnal perthnasoedd mewnol gyda chydweithwyr arbenigol ar draws Ofcom i sicrhau eu bod yn deall anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru wrth wneud penderfyniadau polisi a rheoleiddio er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl i bobl a busnesau yng Nghymru. Cymryd cyfrifoldeb am gyflwyno digwyddiadau a chyhoeddiadau proffil uchel, yn ôl yr angen, sy'n rhoi cyfeiriad ac yn llywio polisi ar faterion rheoleiddio yng Nghymru. Cyfrannu at lywodraethu Ofcom drwy weithio gydag Aelod Bwrdd Cymru a darparu cymorth i Bwyllgor Cynghori Cymru ac aelod Cymru o’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau, gan baratoi papurau, mynychu, a chyflwyno yn ôl yr angen. Dirprwyo ar ran Cyfarwyddwr Ofcom Cymru neu'r Prif Faterion Rheoleiddio yn ôl yr angen. Y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y bydd eu hangen arnoch i lwyddo Llunio Polisi: gallu dangos eich dealltwriaeth drylwyr o'r prosesau llunio polisi ac o fewn hynny â hanes llwyddiannus o fod yn eiriolwr cryf dros Gymru. Meithrin Perthynas: yn fedrus wrth adeiladu a chynnal perthnasau cryf, cydweithredol yn gyflym wrth ddod â chysylltiadau perthnasol i'r rôl. Sianelu dylanwad: gallu dangos sut rydych chi'n defnyddio'ch sgiliau rhyngbersonol rhagorol i gynrychioli gwybodaeth gymhleth ac egluro syniadau'n berswadiol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau. Adeiladu Atebion: y gallu i ddadansoddi a dehongli data, dod i gasgliadau ar sail tystiolaeth ac argymell atebion. Gweithredu Cynlluniau: gallu pennu a chyfleu blaenoriaethau a therfynau amser clir i chi eich hun ac i eraill, gan ddefnyddio adnoddau’n ddoeth i reoli nifer o brosiectau ar yr un pryd. Grymuso Datblygiad: profiadol mewn cefnogi eraill i dyfu eu sgiliau a’u cryfderau, gan eu grymuso ag arweiniad i adael i’w potensial ddisgleirio. Mynegi Syniadau: hyderus i fynegi eich syniadau, eich meddyliau a’ch gwybodaeth gan ddefnyddio technegau amrywiol mewn modd clir a chryno, gan sicrhau bod pawb yn deall negeseuon. Defnyddio sgiliau iaith: byddai'n ddymunol petai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gallu sgwrsio'n gyfforddus yn Gymraeg gyda rhanddeiliaid yng Nghymru. Materion Cyfoes a Chysylltiadau: â dealltwriaeth ddofn o dirwedd wleidyddol a chyfansoddiadol Cymru a’r DU ac ystod o gysylltiadau a fydd yn berthnasol i gylch gwaith Ofcom. Syniadau Arloesol: profiad o arloesi yn eich gwaith drwy syniadau creadigol a gwreiddiol sydd wedi gwella prosesau, polisïau neu wasanaethau. Croesawu newid: gallu dangos eich gallu i weld y darlun ehangach a sut rydych chi wedi bod yn hyblyg wrth wynebu newid Datganiad Cynhwysiad Mae cynhwysiad wrth galon popeth a wnawn. Mae gan Ofcom genhadaeth clir: sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Er mwyn gallu cyflawni hyn, rydym am i’n sefydliad adlewyrchu’r amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau, magwraeth a safbwyntiau sy’n bodoli ledled y DU. Ein nod yw recriwtio o’r gronfa ehangaf bosibl o ymgeiswyr – ni waeth beth yw eich rhywedd, eich ethnigrwydd, eich anabledd, eich cyfeiriadedd rhywiol na’ch cefndir cymdeithasol. Pan fydd swyddi'n cael eu rhestru fel rhai llawn amser, rydym yn parhau i fod yn agored i lai o oriau, trefniadau rhan amser, rhannu swyddi a dewisiadau gweithio hyblyg eraill. O’r diwrnod cyntaf, rydym yn hyrwyddo trefniadau gweithio hyblyg i ddiwallu anghenion unigol. Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant – am ba reswm bynnag. Os ydych chi wedi cymryd amser i ffwrdd ac yn barod i ailymuno, edrychwn ymlaen at ddarllen eich cais. Mae ein prosesau recriwtio yn blaenoriaethu hygyrchedd a chynhwysiad. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall neu os oes gennych chi ddewisiadau penodol, cysylltwch â’n tîm recriwtio yn resourcingofcom.org.uk neu ffoniwch 0330 912 1378. A ninnau yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cynnig cyfweld unrhyw ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer ein rolau sy’n cael eu hysbysebu. Pan fyddwch yn gwneud cais, gallwch roi gwybod i ni os hoffech i’ch cais gael ei ystyried dan y cynllun hwn (a elwir weithiau’n ‘gynllun sicrhau cyfweliad’). Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun yma: https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/jobs/disability-confident-scheme Please note that this role will close at 00:01 on Wednesday 29th January and therefore we advise getting your application by no later than midnight on Tuesday 28th January. For an informal chat to discuss any further questions or queries you may have regarding this role, please feel free to contact Penodi on 07385 502078. If you are interested in applying for this role, please send your CV and cover letter to Penodi at hellopenodi.cymru. About Ofcom As the UK’s communications regulator, we’re delivering vital work that helps keep the UK connected and shapes the future of how we’ll stay connected with each other. Our work covers everything from phones and broadband, through to TV, radio, the postal service, and wireless devices. We’re also taking on the challenge of making the online world a safer place. And we need people of all backgrounds, skill sets, and experiences to help us achieve our goal of making communications work for everyone. About the team you’ll be part of The Ofcom Wales team works across all aspects of Ofcom’s remit to represent Wales within Ofcom and Ofcom within Wales by providing input and advice on the communications needs of people in Wales. We do this by consulting extensively across Wales, by listening to those who advise us and by convening events. We also do this through the excellent relationships we maintain with a diverse range of advisors & stakeholders across Governments, business, the voluntary sector, consumer groups, academics, politicians, and public policy stakeholders in Wales. Ofcom treats the Welsh and English languages equally in our work in Wales where relevant. We believe our approach makes a positive contribution to the ability of Welsh speakers to engage with communications issues in their chosen language. The purpose and scope of the role Working as a part of the Ofcom Wales team and across Ofcom’s regulatory remit, the Regulatory Affairs Manager supports the Wales Director in representing Wales within Ofcom and Ofcom within Wales by providing input and advice on the communications needs of people in Wales. Whilst you will work across Ofcom’s regulatory remit, this role will have a particular focus on building and mobilising support with key stakeholders in Wales around our Online Safety remit. This role is an opportunity to both shape and define a vital part of our work and to closely collaborate with colleagues across Ofcom and in Wales to develop our stakeholder relations and engagement within a fast-moving environment. The Ofcom Wales team embraces flexible working and we welcome applications from job sharers and part-time workers. Your Key Responsibilities You will work collaboratively with colleagues across Ofcom to input and advise on the way communications services are provided and received in Wales to influence our policy and decision-making processes. Overseeing and co-ordinating relationships with high profile stakeholders and organisations in Wales, including speaking for Ofcom, to ensure our UK-wide responsibilities and remit are fully understood. Identifying opportunities and appropriate engagement strategies to help build and mobilise productive relationships and partnerships with stakeholders in Wales. Prepare briefing papers and attend high-level meetings with members of the Ofcom senior management team and key politicians (and other stakeholders) as and when required, using knowledge of the wider political landscape in Wales to help shape the agenda and manage Ofcom’s reputation. Nurture and maintain internal relationships with specialist colleagues across Ofcom to ensure they understand the communications needs of people within Wales when making policy and regulatory decisions to ensure maximum impact for people and business in Wales. Take responsibility for the delivery of high-profile events and publications, as needed, that provide direction and shape policy on regulatory issues in Wales. Contribute to Ofcom’s governance by working with the Board Member for Wales and providing support to the Advisory Committee for Wales and Wales member of the Communications Consumer Panel, preparing papers, attending, and presenting as required. Deputising for the Ofcom Wales Director or Principal Regulatory Affairs as and when required. The skills, knowledge and experience you’ll need for success Policy Making: Able to demonstrate your thorough understanding of the processes of policy making and within that have a successful track record of being a strong advocate for Wales. Relationship Building: accomplished at quickly building and maintaining strong, collaborative relationships whilst bringing relevant contacts to the role. Channelling influence: can demonstrate how you use your excellent interpersonal skills to represent complex information and explain ideas persuasively using a variety of techniques. Building Solutions: the ability to analyse and interpret data, come to evidence-based conclusions and recommend solutions. Executing Plans: adept at setting and communicating clear priorities and deadlines for yourself and for others utilising resources wisely to manage multiple projects simultaneously. Empowering Development: experienced in supporting others to grow their skills and strengths, empowering them with guidance to let their potential shine. Articulating Ideas: confident to express your ideas, thoughts and information using various techniques in a clear and concise manner, ensuring messages are understood by everyone. Utilising language skills: it would be desirable if the successful candidate could converse at ease in Welsh with stakeholders in Wales. Current Affairs & Contacts: have a deep understanding of the political and constitutional landscape in Wales and the UK and a range of contacts that will be relevant to Ofcom’s remit. Trailblazing Ideas: have brought innovation to your work through creative and original ideas that have improved processes, policies, or services. Embracing change: can demonstrate your ability to see the bigger picture and how you have remained flexible in the face of change Ofcom has a clear mission: to make communications work for everyone. To be able to deliver on this, we want our organisation to reflect the diversity of background, experience, upbringing and thought that exists across the UK. We aim to recruit from the widest pool of candidates possible – no matter your social background, ethnicity, sexual orientation, gender or disability. Where positions are listed as full-time, we remain open to reduced hours, part-time arrangements, job shares, and other flexible working options. From day one, we champion flexible work arrangements to accommodate individual needs. We also warmly welcome applicants who are returning to the workforce after a break – for whatever reason. If you have taken time away and are ready to rejoin, we look forward to reviewing your application. Our recruitment processes prioritise accessibility and inclusivity. If you need information in an alternative format or have specific preferences, please contact our recruitment team at resourcingofcom.org.uk or call 0330 912 1378. As a Disability Confident employer, we offer interviews to disabled applicants who meet essential criteria for advertised roles. Learn more about this scheme here. https://careers.ofcom.org.uk/careers/how-we-hire/