Dylech ymgeisio erbyn: 28ain Mawrth 2025 Canol Dydd
Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w/c 3yddEbrill 2025
Rhagwelir y cynhelir cyfweliadau: w/c 17eg Ebrill 2025
Bydd yr Arweinydd Strategol yr Academi Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a goruchwylio Academi Arweinyddiaeth a Datblygiad Personol GTADC, gan sicrhau aliniad â Fframwaith Arwain CCPT, Cod Moeseg Craidd, ac amcanion strategol GTADC. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan ganolog wrth sefydlu diwylliant CYFIAWN a dull gweithio TEG ar draws datblygu arweinyddiaeth, gan sicrhau rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth ar bob lefel.
Mae’r rôl hon yn gofyn am arweinydd â gweledigaeth sy’n gallu dylunio a gweithredu rhaglenni datblygu arweinyddiaeth gynhwysol, effaith uchel ar gyfer staff gweithredol a chorfforaethol, gan weithio’n agos gyda’r Arweinydd Hyfforddiant Gweithredol i sicrhau ymagwedd gyfunol, integredig at hyfforddiant arweinyddiaeth ar draws meysydd datblygiad technegol, strategol a phersonol.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn sicrhau ymchwil barhaus ac integreiddio arfer gorau, ac yn arwain y Prosiect Eiriolwyr Arwain a Gwella ar draws holl dimau a gorsafoedd GTADC.