Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddwy o reilffyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, wedi’u lleoli yng nghanol prydferthwch Eryri. Spooner's yw ein prif lleoliad arlwyo wedi'i leoli yng Ngorsaf yr Harbwr ym Mhorthmadog, ac mae'n darparu lefel uchel o wasanaeth trwy gydol y dydd.
Rydym yn chwilio am ‘Bartender’ a Pherson Seler profiadol ar gyfer ein bar arobryn CAMRA, Spooner's.
Gallwn gynnig i chi:
• £11.98 yr awr, yn cynyddu i £12.64 yr awr o’r 1af o Ebrill 2025
• Cytundeb tymhorol rhwng 1af o Fawrth 2025 i’r 2ail o Ionawr 2026
• Oriau llawn amser; tua. 40 awr yr wythnos gyda ychydig o amrywiad tymhorol
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys rheoli ein seler gwrw, archebu stoc bar, gwasanaethu cwsmeriaid wrth y bar, trin arian a chlirio byrddau. Mae Spooner’s yn gweithio fel tîm felly bydd disgwyl i ymgeiswyr helpu eu cydweithwyr sy’n gweithio ar gownter y caffi neu yn y gegin os oes angen. Mae profiad o reoli seler a gweithio mewn bar prysur yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfforddus tra’n gweithio mewn amgylchedd cyflym a chyffrous. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn hyblyg ac yn gallu gweithio sifftiau dros ddyddiau, gyda'r nos ac ar benwythnosau. Oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, hyd at 40 awr yr wythnos dros 5 shifft.
Sgiliau Craidd:
• Profiad mewn rôl bar cwrw
• Byddai gwybodaeth sylfaenol am Reoli Seler
• Byddai diddordeb yn y diwydiant diodydd a gwybodaeth am Gwrw ‘Cask’, Gwin a Choctels
• Chwaraewr tim
• Sgiliau cyfathrebu da
• Y gallu i weithio’n lân ac yn daclus
• Byddai gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hylendid bwyd a chegin yn ddymunol
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg o fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd, eu teithwyr a'r farchnad economaidd leol.
Rhaid i ymgeiswyr am y swydd hon fod yn 18 oed neu'n hŷn a bod â'r hawl i weithio yn y DU.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .