The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae’r ysgol yn chwilio am berson egnïol a deinamig i ymgymryd â swydd addysgu Saesneg llawn amser cyfnod penodol o 1 Medi 2025. Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sydd am gytundeb rhan-amser. Dylid nodi hynny yn y ffurflengais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â grwp o athrawon brwdfrydig sy’n awyddus i ddarparu’r addysg orau i ddisgyblion o flwyddyn 7 i 13. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu’r pwnc hyd at TGAU. Gall fod cyfle hefyd i ymgeisydd addas addysgu’r pwnc hyd at Safon Uwch.
Mae’r swydd hon yn addas i athrawon sydd newydd gymhwyso neu sydd yn y broses o gymhwyso yn ystod y flwyddyn. Mae rhaglen cefnogaeth gynhwysfawr ar gael i athrawon newydd gymhwyso. Yn ogystal, gall fod cyfle i ymgeisydd addas ddilyn cynllun TAR Cyflogedig Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored i gymhwyso fel athro cymwysedig.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan weithredol i hyrwyddo nodau ac amcanion yr ysgol o Gymreictod, Parch ac Ymdrech.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, mae croeso i chi wneud hynny drwy naill ai drwy ffonio’r ysgol (01970 639499), neu drwy e-bost at ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr