Am Y Gwasanaeth Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. Mae tîm caffael Ardal wedi’i rannu'n 5 tîm gweithredol: Gwasanaethau Proffesiynol a TGCh, Corfforaethol a Thrafnidiaeth, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymunedol, Adeiladu ac Ystadau ynghyd â Phriffyrdd, Gwastraff a Pharciau. O ganlyniad i gryfhau ein Timau Categori, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm, sydd wedi ennill gwobrau ac a gynhelir gan Gyngor Caerdydd fel Arbenigwr Categori. Mae'r Tîm yn cefnogi'r swyddogaeth caffael a chyrchu ar gyfer gwahanol gategorïau o wariant; mae'r Tîm hefyd yn rheoli amrywiaeth o fframweithiau cydweithredol cenedlaethol gan gynnwys Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru, Fframwaith Peirianneg Sifil ac Adeiladu Priffyrdd Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru ac eraill. Mae'r tîm yn cwmpasu maes amrywiol o wasanaethau ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion a allai fod â phrofiad o gaffael y mathau hyn o nwyddau, gwasanaethau, a gwaith, neu sydd â phrofiad a gwybodaeth am y diwydiannau hyn, er nad yw hynny’n hanfodol. Am Y Swydd Bydd y rôl ar gyfer unigolyn brwdfrydig sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gallu dangos y gofynion a'r profiad a nodir yn y Fanyleb Person. Dyma rai o brif gyfrifoldebau a gofynion y rôl: Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Categori, y Rheolwr Categori a’r Uwch Arbenigwr Categori o ran dylunio, datblygu a gweithredu cynlluniau categori caffael a strategaethau cyrchu. Sicrhau cyfanrwydd, cywirdeb ac amseroldeb dogfennaeth tendro a chontractau o fewn y categorïau a bennwyd. Cynorthwyo â sicrhau arbedion a dargedwyd a gwerth am arian o fewn y categorïau ac is-gategorïau nwyddau a bennwyd a’r rhai llai cymhleth. Cefnogi Cyfarwyddiaethau i roi gweithgareddau allweddol ar waith yn effeithiol o fewn yr atebion cyrchu strategol a gymeradwyir. Rhoi cyngor a hyfforddiant i staff Gwasanaethau yn ôl y gofyn ar unrhyw brosesau caffael, hen a newydd, i’w galluogi i fod yn gwsmeriaid deallus. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Rydym am benodi unigolyn hunan-gymhellol sydd â phrofiad o gaffael yn y sector cyhoeddus yn bennaf, er nad yw hyn yn hanfodol. Gallai'r profiad hwn fod ar draws ystod eang o gategorïau gwario. Neu mae'n bwriadu datblygu gyrfa o fewn caffael y sector cyhoeddus. Gwybodaeth Ychwanegol Bydd gweithio i Dîm Ardal yn golygu gweithredu fel catalydd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i'r unigolion cywir ac yn cynnig amlygiad i sawl math o gaffael amrywiol ac arloesol gyda'r lefel angenrheidiol o gefnogaeth. Wrth i ni geisio caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n bodloni disgwyliadau ein dinasyddion o ran ein hadferiad economaidd ar ôl COVID-19, wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r gofyniad i sicrhau cyllideb gytbwys. Amgylchedd gwaith hybrid gyda’r gallu a’r rhyddid i weithio ar sail ystwyth yn y swyddfa yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd a gartref. Cyngor Caerdydd yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnig pecyn hael a blaengar o fuddion. I gael manylion llawn, ewch i: https://www.jobscardiffcouncil.co.uk/pam-gweithio-i-ni/ Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Cynigir y rôl hon ar sail barhaol. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. Gall y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon gael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol, neu wyneb yn wyneb. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, ffoniwch Lucy Jones i drafod. Yn ychwanegol, am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Lucy Jones (Rheolwr Categori – Corfforaethol a Thrafnidiaeth) - 07967793358 Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais: Canllaw Ymgeisio Gwneud cais am swyddi gyda ni Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol: Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd Job Reference: RES01316