Creu fframwaith a chyfeiriad strategol y sefydliad trwy gynllunio a rheoli cynlluniau a strategaethau a'i fframwaith rheoli perfformiad i sicrhau cyflawniad.
Cefnogi gwaith o ddylunio a chyflwyno fframwaith o safonau cenedlaethol, polisïau, methodolegau a dulliau o ymgysylltu, cynrychiolaeth ac eiriolaeth cwynion.
Adeiladu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac enw da'r sefydliad trwy reoli swyddogaeth materion cyhoeddus cynhwysfawr sy'n cynnwys cyfathrebu, ymgysylltu a phartneriaethau.
Datblygu a gwneud y defnydd gorau o wybodaeth sefydliadol i ysgogi penderfyniadau a chefnogi gwaith cyflawni swyddogaethau'r sefydliad ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Datblygu safbwyntiau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i lywio llunwyr polisïau iechyd a gofal a dylanwadu arnynt.
Goruchwylio ac arwain rhaglenni a phrosiectau cenedlaethol.
Gweithio'n hyblyg fel rhan o'r uwch dîm rheoli.
Sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a chynaliadwyedd wedi'u gwreiddio ym mhob rhan o'r sefydliad.