The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae’r ysgol yn chwilio am berson egnïol a deinamig i addysgu Mathemateg a Rhifedd dros gyfnod mamolaeth o 1 Medi 2025.
Mae’r swydd hon yn addas i athrawon sydd newydd gymhwyso neu sydd yn y broses o gymhwyso yn ystody flwyddyn. Mae rhaglen cefnogaeth gynhwysfawr ar gael i athrawon newydd gymhwyso. Yn ogystal, gall fod cyfle i ymgeisydd addas ddilyn cynllun TAR Cyflogedig Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored i gymhwyso fel athro cymwysedig.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan weithredol i hyrwyddo nodau ac amcanion yr ysgol o Gymreictod, Parch ac Ymdrech.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, mae croeso i chi wneud hynny drwy naill ai drwy ffonio’r ysgol (01970 639499), neu drwy e-bost at ymholiadau@penweddig.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr