Glanhawr Ysgol - Ysgol Fawr Llantiwt
Amdanom ni
Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion am gyflog : Grade 1 £12.26ya
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener.
Amser tymor 14.5 wr/wythnos (38 wythnos).
Egwyl 12.5 awr/wythnos (3 wythnos).
Prif Waith: Llatwit Major School
Disgrifiad:
1. Cynorthwyo i roi gwasanaeth glanhau effeithiol i gleientiaid glanhau adeiladau
2. Cymryd lle glanhawyr eraill yn ystod cyfnodau o wyliau, salwch, diffyg staff ac absenoldebau eraill.
3. Cynorthwyo’r goruchwylydd / goruchwylydd safle yn achlysurol gyda hyfforddi staff glanhau.
4. Ymgymryd â’r holl agweddau ar dasgau glanhau fel; glanhau carpedi a glanhau stêm, glanhau yn unol â'r fanyleb safle, glanhau ar ôl gwaith adeiladu, glanhau yn ystod egwyliau a glanhau arall na nodir fel arfer yn y fanyleb safle.
Amdanoch chi
Bydd angen y canlynol arnoch:
5. Profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu mewn disgyblaeth/amgylchedd arall cysylltiedig â glanhau.
6. Dealltwriaeth sylfaenol o'r amryw dasgau glanhau y mae angen eu gwneud i ddarparu Gwasanaeth Glanhau effeithlon ac effeithiol.
7. Sgiliau llafar da a gallu trafod ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
8. Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
9. Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
10. Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
11. Parod i weithio oriau afreolaidd.
12. Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol.
Gwybodaeth ychwanegol
Angen Gwiriad DBS: Manwl
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Lynne Armstrong 02920 673120
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Available documents