Am Y Gwasanaeth Mae’r Gwasanaethau 24/7 yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau a Theledu Cylch Cyfyng Cyngor Caerdydd sydd wedi'i hachredu ac sy’n cynnwys yr holl offer angenrheidiol. Mae'r Ganolfan yn cynnig teledu cylch cyfyng a gwasanaeth larwm i lawer o adeiladau Cyngor Caerdydd, trwy’r dydd, bob dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r tîm Wardeniaid Ardal Leol yn gweithredu fel y tîm ymateb ar gyfer yr ystafell reoli. Mae'r tîm yn cynnig ymateb yn y gymuned i gwsmeriaid, gan gwblhau patrolau o adeiladau. Am Y Swydd Mae gennym gyfle cyffrous i unigolion ymroddedig ymuno â’n tîm. Bydd y tîm yn gyfrifol am gynnig gwasanaeth ymateb cymunedol dibynadwy a hyblyg mewn adeiladau sydd angen lefel uchel o ddiogelwch. Mae hyn yn cynnwys patrolio safleoedd, herio ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel ac ymateb i larymau adeiladau, yn unol â chyfarwyddyd yr ystafell reoli TCC. Mae Wardeniaid Lleol wedi eu lleoli yn Neuadd y Sir ond mae’r tîm yn gweithio o bell am y rhan fwyaf o'u diwrnod, yn ymweld ag amryw safleoedd ac yn defnyddio technoleg briodol i gwblhau patrolau ac adroddiadau digwyddiadau ac i gadw mewn cysylltiad â'r ystafell reoli TCC bob amser. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm gan weithio’n dda o dan bwysau a chadw pwyll wrth ymdrin â sefyllfaoedd heriol a/neu anodd. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gyfathrebwyr cryf ac sy’n gallu gweithio'n annibynnol. Mae’r gallu i siarad sawl iaith yn ddymunol. Byddai profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant diogelwch yn ddymunol, ond nid yw hyn yn hanfodol. Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a TGCh da a'r gallu i gynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig i safon uchel, a fydd yn cael eu hasesu yn y cyfweliad. Gwybodaeth Ychwanegol Mae’r Ganolfan Gyswllt ar agor 24/7, bob diwrnod o’r flwyddyn, gan gynnwys Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc. Mae patrwm shifftiau priodol ar waith, gyda thâl ychwanegol a lwfansau perthnasol yn cael eu cynnig. Yn ddibynnol ar batrwm shifftiau, bydd y rôl yn denu 10% o daliad chwyddo, taliad chwyddo gyda’r nos sef y gyfradd fesul awr ynghyd â 1/3, taliad chwyddo ar y penwythnos o’r gyfradd fesul awr ynghyd â 1/2 a rhoddir oriau dwbl yn ogystal ag oriau yn lle tâl am waith ar Wyliau Banc. Mae'r rôl yn rhan amser, fodd bynnag gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl cyflog sy’n unol â chyflog gweithiwr llawn amser (37 awr yr wythnos). Mae'r rôl hefyd yn cynnig cyfleoedd goramser. Rhoddir hyfforddiant llawn. Oherwydd natur y rôl, bydd angen cynnal gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn llwyddiannus. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae hon yn swydd barhaol. I gael mwy o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Tom Harris, Rheolwr y Ganolfan Derbyn Larymau a’r Ystafell Reoli tharriscaerdydd.gov.uk Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â. Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:- Canllawiau Gwneud Cais Gwneud cais am swydd â ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol:- Siarter y Gweithwyr Recriwtio Cyn-droseddwyr Nodyn Preifatrwydd Job Reference: RES01298