Pwy rydyn ni'n chwilio amdano Gallwch weld proffil rôl llawn y rôl hon yn y ddogfen sydd ynghlwm. Nid oes angen i chi gael yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad a restrir yn y proffil rôl; Mae hyn yn unig i roi darlun llawn o'r hyn sy'n bosibl yn y rôl hon. Ar gyfer y swydd hon rydym yn chwilio am rywun sydd â:• Sgiliau cyfathrebu rhagorol • Y gallu i sgwrsio'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg • Ymrwymiad i safonau uchel o wasanaeth cwsmeriaid • Dull gweithgar gyda phrofiad o weithio'n annibynnol mewn sefyllfaoedd prysur ac ar dasgau ymarferol • Gwybodaeth am weithgarwch morwrol e.e. cychod, angorfeydd, lansio a diddordeb yn yr amgylchedd morol. Cynorthwy-feistr Harbwr / Assistant Harbour MasterSut beth yw gweithio yma:Mae Porthdinllaen yn gyrchfan adnabyddus ym Mhen Llŷn ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau’r lleoliad hardd trwy ymlacio ar y traeth, cerdded llwybrau'r arfordir, mynd i'r dŵr neu ymweld a'r enwog Tŷ Coch y dafarn ar y traeth. Mae'n lle sydd â hanes hynod gyfoethog a dynodiadau cadwraeth natur pwysig fel Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau. Mae hefyd yn gartref i un o'r gwelyau morwellt mwyaf yng Nghymru. Mae harbwr Porthdinllaen yn darparu amddiffyniad rhag amodau gwynt a thonnau ac mae'n cysgodi rhag pob gwynt ond gwynt gogledd-ddwyrain. Mae gan ardal yr harbwr fewnol oddeutu 40 angorfa, gyda oddeutu 80 yn yr harbwr allanol. Mae fflyd fechan o longau pysgota yn gweithredu o bentref Porthdinllaen, ac mae'r bae yn cael ei fynychu gan badau amrywiol gan gynnwys cychod hwylio, cychod sy'n cael eu gyrru gan bŵer, badau dŵr personol a padlfyrdd. Mae mynediad ar gyfer cychod a lansiwyd a threlar ar gael ym Morfa Nefyn. Porthdinllaen | Llŷn Peninsula | Wales | National Trust Beth fyddwch chi'n ei wneudFel ceidwad tymhorol, bydd rhan fawr o'ch rôl yn cynnwys ymgysylltu â phobl a rhoi croeso i Borthdinllaen. Byddwch yn wyneb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen a byddwch yn gallu ateb ymholiadau a rhoi gwybodaeth i bobl a fydd yn gwella'u hymweliad. Byddwch hefyd yn sicrhau safonau uchel ar y safle, gan godi sbwriel yn ddyddiol a sicrhau bod y traeth yn glir o beryglon. Byddwch yn sicrhau y bydd gan ddefnyddwyr yr harbwr y wybodaeth angenrheidiol i ddefnyddio'r ardal yn ddiogel. Byddwch yn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael ymweliad pleserus, diogel a chofiadwy. Mae diogelwch yn flaenoriaeth a byddwch yn hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o'r ardal ac yn cynghori'r cyhoedd ar is-ddeddfau a pholisïau arfordirol lleol.Y pecynYr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi. Closing Date: 20 April 2025 To apply for this vacancy simply click the 'apply' button in the top right hand side of the page.If you need any help with your application, i.e. due to technical difficulties, please call us on 0370 240 0274 or email us at recruitmentenquiriesnationaltrust.org.ukIf you require an adjustment to the application process, for example due to disability or medical condition, please call us on 0370 240 0274 or email us at adjustmentsnationaltrustjobs.org.uk and we'll support you as best as we can. For examples of how, please see our supporting you page.Equal Opportunities Statement The National Trust celebrates diversity and is committed to creating a fair and equal society, free from discrimination. You can read more about our commitment to inclusion and diversity here. Safeguarding Statement The National Trust is committed to a safe recruitment processes to help the organisation attract and appoint the right staff/volunteer for the role and responsibilities as set out in the vacancy advert. We will not accept applicants who are not suitable to work with children, young people or adults at risk. If you have any questions around your suitability for this vacancy, please contact the people service centre. Please note we reserve the right to close this advert early and therefore we encourage you to apply for this position early. 162418IRC162418PwlhelliFixed Term p/t (until 19/09/25)Ends: Apr 20th Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a hyderus i oruchwylio'r traeth a'r harbwr ym Mhentref porthdinllaen dros dymor yr haf. Ydych chi'n gyfathrebwr ardderchog gyda sgiliau ymarferol da a dealltwriaeth o'r amgylchedd morol? Os ydych chi'n caru'r arfordir, mwynhau gweithio yn yr awyr agored a sgwrsio gyda phobl, yna fe allai'r rôl yma fod i chi. Mae hwn yn gontract cyfnod penodol hyd at 19/09/25, a bydd disgwyl i chi weithio o 10am i 4pm, hyd at bum diwrnod yr wythnos, gan gynnwys y mwyafrif o benwythnosau a gwyliau banc.Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio'n bennaf ym mhentref Porthdinllaen gyda rhai ddiwrnodau ar Lon Bridin, Morfa Nefyn.Gan fod Penrhyn Llŷn yn ardal wledig, gofynnwn i chi ystyried sut fyddech chi’n cyrraedd yma i'r gwaith, cyn eich bod yn ymgeisio am y swydd.The ful English translation of this advert is available in the attached PDFPorthdinllaen, Llyn, Min Afon, Pwlhelli, LL53 8BUCompliance.Eligibility to Work in the UK12.75 per hour