Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Gweinyddol - Cymorth Ymchwil Agored Rydym yn chwilio am ddau aelod brwdfrydig a hyblyg o staff i weithio gyda ni wrth i ni drawsnewid ein prosesau gweinyddol ar gyfer ein storfa sefydliadol o allbynnau ymchwil. Byddwch yn cynorthwyo'r Tîm Ymchwil Agored presennol drwy ateb ymholiadau. Byddwch hefyd yn defnyddio eich sgiliau rhagorol am fanylder i wirio a chadarnhau data cyhoeddi yn ogystal â chynnal tasgau cymorth ymchwil eraill megis adrodd. Yn ogystal, bydd angen i chi weithio’n hyblyg ac ar y cyd â'r tîm Ymchwil Agored, cydweithwyr yn y llyfrgell a phartneriaid eraill yn y Brifysgol i gefnogi'r gofynion ar gyfer cydymffurfiaeth mynediad agored. Mae’r ddwy swydd yn swyddi amser llawn, 35 awr yr wythnos, am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2027. Cyflog: £27,644 - £30,805 y flwyddyn (Gradd 4) Byddwch chi yn rhan o dîm sy’n sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell yn: cael eu cynnig mewn modd cyfeillgar sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf, yn unol ag addewid y llyfrgell; ymateb i anghenion newidiol staff a myfyrwyr y Brifysgol ynghyd â rhai Ymddiriedolaeth briodol y GIG; cefnogi rhaglenni addysgu, dysgu ac ymchwil y Brifysgol; cefnogi strategaeth y Brifysgol Byddech chi yn glynu wrth werthoedd ac ymddygiadau Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol. (Gweler gwybodaeth ychwanegol.) Rydym yn cynnig pecyn ail-gyfrifo rhagorol gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn ynghyd ag 8 gŵyl banc, pro rata ar gyfer staff rhan-amser, yn ogystal â mynediad at amrywiaeth o ostyngiadau staff a chyfleoedd datblygu drwy hyfforddiant achrededig. Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi gymryd camau ymlaen yn eich gyrfa. Rydym am gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd, cred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran yr unigolion. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dod o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu bod yn rhan o dîm ac a fydd yn gweithio gyda chyd-weithwyr i gynnig gwasanaeth gwych i staff a myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i Brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau eich gyrfa, neu barhau â hi ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyddiad cau: Dydd Gwener, 4 Ebrill 2025 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Prif Ddyletswyddau: Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau Storfa Sefydliadol y Brifysgol i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth. Llenwi a monitro'r Storfa Sefydliadol gyda ffeiliau a data i gynnal ansawdd cofnodion. Cydweithio ag eraill i argymell ffyrdd o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig. Sefydlu perthynas waith ag enwau cyswllt pwysig er mwyn helpu i wella lefelau gwasanaeth, gan gyfathrebu’n briodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen. Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r adran. Casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau, gan nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a llunio adroddiadau fel y bo’n briodol. Hyfforddi ac arwain gweithwyr eraill yn y Brifysgol wrth ddefnyddio Storfa Sefydliadol y Brifysgol. Arwain neu gymryd rhan mewn prosiectau neu weithgorau arbennig yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol. Cynrychioli Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol ar bwyllgorau perthnasol. Ymgymryd â phrosesau recriwtio a dethol. Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad yn y swydd, gan gynnwys TG. Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol. Helpu i greu partneriaethau ymchwil rhagorol yn unol ag Addewid Gofal Cwsmeriaid Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol a’r Addewid Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid. Dyletswyddau Cyffredinol: Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni eich holl ddyletswyddau. Cydymffurfio â pholisïau’r Brifysgol, yn arbennig y rhai sy'n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch, Diogelu Data a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu rhoi. Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn mwy nag un llyfrgell yn ystod eich cyflogaeth. Ein gwerthoedd Mae pob un o’n gwerthoedd yn diffinio’r ymddygiad a ddisgwylir gan ein staff a’n rheolwyr llinell: Cydweithio Rwy’n ymwybodol o fy ymddygiad fy hun a sut mae'n effeithio ar bobl eraill Rwy’n gweithio gyda phobl eraill ac yn rhannu gwybodaeth berthnasol er mwyn cyflawni amcanion Rwy’n ystyried y manteision ehangach i’n cwsmeriaid Rwy’n rhannu problemau ac yn chwilio am atebion sy’n gweithio i bawb Cysondeb a rhagoriaeth Rwy’n rhoi gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid allanol a mewnol Rwy’n awgrymu meysydd i’w gwella lle gallai prosesau fod yn well Nid ydw i’n gweithredu heb ystyried anghenion fy nghydweithwyr a’r cwsmeriaid Nid ydw i’n osgoi tasgau anodd fyddai’n rhoi’r gwerth gorau i’m cwsmeriaid Dysgu Rwy’n dangos ymrwymiad i’m datblygiad fy hun, gan gynnwys technoleg newydd Rwy’n cydnabod camgymeriadau, yn chwilio am atebion ac yn dysgu o’r broses honno Rwy’n gweithio’n greadigol i ddadansoddi problemau a datblygu atebion arloesol ac ymarferol Effeithlonrwydd Rwy’n cynllunio fy llwyth gwaith i wneud yn siŵr bod gweithgareddau ystyrlon yn cael eu blaenoriaethu Rwy’n defnyddio’r adnoddau sydd ar gael, gan gynnwys pobl, gwybodaeth, data, technoleg, rhwydweithiau a chyllidebau mewn modd effeithiol Rwy’n gweld cyfleoedd mewn newidiadau, ac rwy’n agored i syniadau newydd Cynhwysiant Rwy’n parchu safbwyntiau a barn pobl eraill Rwy’n dangos ymrwymiad i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau Rwy’n cefnogi cydweithwyr ac yn ystyried ac yn addasu fy agwedd Rwy’n cynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd ac yn cefnogi pobl eraill i wneud yr un peth Nid ydw i’n amharchu barn pobl eraill nac yn eu hanwybyddu Nid ydw i’n methu ystyried effeithiau fy iaith a’m hymddygiad ar bobl eraill bob amser Nid ydw i’n anwybyddu gwerth prifysgol amrywiol Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol yn un o naw o adrannau o fewn Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Caerdydd. Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn rhan o Adran Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr y Brifysgol. Mae Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol yn cynnwys nifer o lyfrgelloedd ledled Prifysgol Caerdydd, gan ddarparu mynediad i 1.1 miliwn o lyfrau printiedig, mynediad i fwy nag 1.5 miliwn o lyfrau, cyfnodolion ac adnoddau ar-lein, ac ystod eang o lyfrau ac archifau prin a hanesyddol.Mae pob llyfrgell yn cydweithredu'n agos â'u hysgolion academaidd i sicrhau bod y gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn parhau i fodloni anghenion pob grŵp addysgu, dysgu ac ymchwil. Mae gwasanaeth llyfrgell y Brifysgol hefyd yn darparu gwasanaethau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a phartneriaeth gwasanaeth llyfrgell GIG Cymru. Yn ogystal â bod yn gartref i lyfrau a chyfnodolion printiedig ac electronig, mae'r llyfrgelloedd hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau i alluogi ymchwil arbenigol, gan gynnwys tîm adolygwyr rheolaidd SURE a chasgliadau ymchwil unigryw megis Casgliadau ac Archifau Arbennig, y Ganolfan Ddogfennaeth Ewropeaidd, a chyfleusterau archif eraill. Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol yn ymrwymo i wasanaeth cwsmeriaid gwych. Dyfarnwyd 'nod barcud' safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid ® Llywodraeth y DU i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, sy’n cydnabod bod gwasanaeth cwsmeriaid wrth wraidd ein gwasanaethau. Rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n gyfeillgar, yn cynorthwyo ac yn ymateb i anghenion ein cwsmeriaid gan wneud popeth sy'n rhesymol bosibl i sicrhau dibynadwyedd ein gwasanaethau. Manyleb Unigolyn Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut yr ydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny trwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar ei pherthnasedd i'r rôl. Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW - 19763BR - TEITL SWYDD] a'i rhoi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio. Yn ogystal, nodwch mai dyma'r meini prawf yr asesir ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unol â hwy mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau) lle bo’n berthnasol. Meini Prawf Hanfodol 1. NVQ Lefel 3/Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol. 2. Profiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol, a dealltwriaeth amlwg o gysyniadau Mynediad Agored a storfeydd sefydliadol. 3. Tystiolaeth o'r gallu i chwilio am wybodaeth cyhoeddi (mewn cronfeydd data neu ar y rhyngrwyd), i gofnodi'r canlyniadau mewn cronfa ddata, gan ofalu eu bod yn gywir a rhoi sylw i fanylion. 4. Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a’u gwella fel y bo’n briodol. 5. Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth. 6. Tystiolaeth amlwg o ddefnyddio rhaglenni TG megis Microsoft Office, rhaglenni e-bost a'r rhyngrwyd, gan gynnwys Excel. 7. Tystiolaeth o allu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn darparu gwasanaeth o safon. 8. Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan gynnwys tystiolaeth o allu nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau pan fydd amrywiaeth o opsiynau posibl ar gael. 9. Tystiolaeth o allu gweithio heb oruchwyliaeth, gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun. 10. Ymrwymiad amlwg i ddatblygiad proffesiynol parhaus a pharodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi, gan gynnwys defnyddio TG. Meini Prawf Dymunol 11. Gradd neu gymhwyster cyfatebol, neu brofiad gwaith perthnasol. 12. Profiad o oruchwylio gwaith pobl eraill er mwyn ysgogi unigolion a sicrhau bod y tîm yn anelu at yr un nod. 13. Profiad o weithio ym maes addysg uwch. 14. Wedi cyflawni’r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd neu gymhwyster TG cyfatebol. 15. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.