Uwch Newyddiadurwr / Gohebydd - EXTEND
Pecyn Swydd
Cyflog: £39,800-£48,367 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai: y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu'r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend drwy flwch derbyn Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC.
Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol ein cyflogaeth gyda ni. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.
Mae adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn chwilio am newyddiadurwr/wraig uchelgeisiol a chreadigol i weithio fel Uwch Newyddiadurwr yn ardal Abertawe, am o leiaf y 6 mis nesaf. Byddwch yn rhan o dîm o ohebwyr sy'n darganfod ac yn cyflwyno straeon o gymunedau yn un o ardaloedd mwyaf amrywiol a bywiog y wlad. Disgwylir i chi gynhyrchu cynnwys digidol, radio a theledu, sy'n apelio at ein holl gynulleidfaoedd, yn y ddwy iaith.
Mae'r rôl gyffrous a heriol hon yn cynnwys cyflawni ein blaenoriaethau digidol a darparu cynnwys i’w ddarlledu ar draws ein gwasanaethau teledu a radio, yn ogystal â darlledu'n fyw yn Gymraeg a Saesneg. Bydd angen i chi gynhyrchu straeon a syniadau gwreiddiol, fyddai’n gweithio ar draws sawl llwyfan a gallu defnyddio amrywiaeth o offer er mwyn adrodd y stori yn y ffordd mwyaf priodol. Darperir hyfforddiant, lle bo angen.
Ai chi yw'r ymgeisydd iawn?
Bydd angen i chi allu gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth mewn awyrgylch brysur. Bydd gennych farn newyddion ardderchog a brwdfrydedd dros y swydd, a gwybodaeth dda am y cymunedau y byddwch yn gweithio ynddynt. Disgwylir i chi gyfrannu'n rheolaidd at ein holl wasanaethau newyddion a bod yn fedrus wrth reoli amrywiaeth o alwadau. Mae'r gallu i weithio'n gyflym dan bwysau ac i fod yn gyfforddus ac yn hyderus wrth ddarlledu'n fyw hefyd yn allweddol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Bydd angen i chi weithio’n dda fel rhan o dîm a chyfrannu at wneud yr adran newyddion yn lle gwych i weithio ynddi.
#J-18808-Ljbffr