Summary
We’re looking for a Welsh Language and Translation Officer to join our team in Wales. This exciting new role will champion the Welsh language across the National Trust, leading the delivery of our translation work, developing our bilingual tone of voice and supporting teams to ensure a consistent approach to bilingual ways of working across the organisation.
Welsh language skills are essential for this role. Please complete the attached Welsh Language Competency Assessment and upload this alongside your CV.
Crynodeb
Rydym yn chwilio am Swyddog Iaith Gymraeg a Chyfieithu i ymuno â’n tîm yng Nghymru. Byddwch y rôl newydd, gyffrous hon yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar draws yr Ymddiriedolaeth, gan arwain ar y ddarpariaeth o’n gwaith cyfieithu ar draws ystod o gyfryngau, datblygu ein llais dwyieithog a darparu cefnogaeth i’r timau er mwyn sicrhau ymagwedd gyson at weithio'n ddwyieithog o fewn y sefydliad.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV.
What it's like to work here
The National Trust Consultancy is the home to specialists in every field of our work. A national consultancy, where resources are shared across disciplines and boundaries, it’s proving to be a great repository of skills, talent and experience. The diversity and quality of expertise within the Consultancy will enable our properties and places to benefit from an extraordinary range of creative and innovative thinking, as well as deep expertise in all matters relating to our twin purpose of caring for the nation’s heritage and landscapes, and making these accessible to all.
As this role covers the whole of Wales, your contractual place of work will be the nearest National Trust consultancy office to your home. Our hybrid working policy means you can balance office and home working with site visits and meetings at other National Trust places. We’ll talk about this in more detail at interview, but you should expect to be at a National Trust site for 40–60% of your working week.
Sut beth yw gweithio yma?
Mae Gwasanaeth Ymgynghori'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gartref i arbenigwyr ym mhob maes o'n gwaith. Gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol, lle rhennir adnoddau ar draws disgyblaethau a ffiniau, sy'n profi i fod yn gronfa werth chweil o sgiliau, doniau a phrofiadau. Bydd amrywiaeth ac ansawdd yr arbenigedd o fewn y Gwasanaeth Ymgynghori yn galluogi ein heiddo a lleoedd i elwa o ystod ryfeddol o feddylfryd creadigol ac arloesol, yn ogystal ag arbenigedd dwfn ym mhob mater yn ymwneud â'n diben dwbl o ofalu am dreftadaeth a thirweddau'r genedl, a gwneud y rhain yn hygyrch i bawb.
Gan fod y swydd hon yn cwmpasu Cymru gyfan, eich lleoliad gwaith cytundebol fydd y swyddfa ymgynghori Ymddiriedolaeth Genedlaethol agosaf at eich cartref. Mae ein polisi gweithio hybrid yn golygu y gallwch gydbwyso gweithio yn y swyddfa a gartref gydag ymweliadau safle a chyfarfodydd yn lleoliadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwn yn trafod hyn mewn mwy o fanylder yn y cyfweliad, ond dylech fod ar un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 40-60% o'ch wythnos waith.
What you'll be doing
Working as part of the External Affairs, Marketing and Communications team in Wales, this new role will be responsible for delivering high quality bilingual copy and translation across a range of mediums, from social media through to large-scale marketing campaigns.
You will be a champion for the Welsh language across the National Trust, leading the implementation of our new Welsh language strategy and action plan.
Collaboration will be key and you will work with colleagues across the organisation to ensure a consistent approach to bilingual ways of working, providing guidance and support to our teams.
This will include advising on translation processes, bilingual design best practice, developing our Welsh tone of voice, and overseeing engagement with external translators and proofing commissioned copy as needed.
Yr hyn fyddwch chi’n ei wneud
Gan weithio fel rhan o'r Tîm Materion Allanol, Marchnata a Chyfathrebu yng Nghymru, bydd y rôl newydd hon yn gyfrifol am ddarparu copi dwyieithog a chyfieithiadau o safon uchel ar draws ystod o gyfryngau, o gyfryngau cymdeithasol i ymgyrchoedd ar raddfa fawr.
Byddwch yn hyrwyddwr i'r iaith Gymraeg ar draws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan arwain ar roi ein strategaeth iaith Gymraeg a chynllun gweithredu ar waith.
Bydd cydweithredu'n allweddol a byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau ymagwedd gyson at ffyrdd dwyieithog o weithio, gan ddarparu arweiniad a chefnogaeth i'n timau.
Bydd hyn yn cynnwys cynghori ar brosesau cyfieithu, arfer gorau gyda chynllunio dwyieithog, datblygu ein llais Cymraeg, a goruchwylio ymgysylltu gyda chyfieithwyr allanol a phrawf ddarllen testun a gomisiynwyd yn ôl yr angen.
Who we're looking for
We’re looking for someone with the following skills and experience:
1. Fluency in spoken and written Welsh
2. Professional translation qualification or relevant experience
3. Experience of creative translation across marketing channels
4. Experience of championing and engaging people in the use of the Welsh language
5. Knowledge of implementing Welsh language policy within an organisation
6. Excellent communication and interpersonal skills, with the ability to build collaborative working relationships
7. Well organised, with the ability to work at pace, prioritise workload and meet deadlines.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r sgiliau a'r profiad a ganlyn:
8. Y gallu i gyfathrebu’n rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Gymraeg
9. Cymhwyster cyfieithu proffesiynol neu brofiad perthnasol
10. Profiad o gyfieithu'n greadigol ar draws sianeli marchnata
11. Profiad o hyrwyddo’r Gymraeg a denu diddordeb pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg
12. Gwybodaeth am weithredu polisi iaith Gymraeg o fewn sefydliad
13. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, gyda'r gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd gweithio da.
14. Trefnus iawn, gyda’r gallu i weithio’n gyflym, blaenoriaethu llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser.
The package
The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.
•Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
•Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18)
•Rental deposit loan scheme
•Season ticket loan
•EV car lease scheme
•Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
•Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
•Flexible working whenever possible
•Employee assistance programme
•Free parking at most Trust places
Buddion o weithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
⦁Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
⦁Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
⦁Gostyngiadau yn siopau'r stryd fawr, mewn sinemâu, ac yn eiddo a chaffis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
⦁Mynediad am ddim i'n heiddo i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
⦁Gwyliau blynyddol hael
⦁Cynllun arian iechyd cymorthdaledig
⦁Gwasanaeth cymorth 24 awr y dydd am ddim
⦁Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
⦁Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'u teilwra i chi
⦁Hyd at 5 diwrnod o wirfoddoli â thâl i chi.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.