Who is Estyn? Estyn is a key player in Welsh education reform, actively supporting schools and providers with the new curriculum and inspection methods. We focus on enhancing learning experiences for both young people and adults in Wales, with learners at the core of our mission. Our Audit and Risk Assurance Committee Our Audit and Risk Assurance Committee provides scrutiny, oversight and assurance of risk management control and governance procedures to His Majesty’s Chief Inspector (HMCI) as Accounting Officer, and to the Strategy Board. Who we are looking for? We are looking for individuals to fill positions on the Board from September 2025. Our Non-Executive Directors have an advisory role, informing our Strategy Board and its sub-committees’ reasoning and operation. You will be expected to provide an external perspective to discussions, as well as independent constructive challenge – broadening our thinking with your diverse experiences. In practice, you will assess the assurances provided by the Strategy Board, as well as by internal and external auditors, and advise on matters relating to financial management, corporate governance, risk management and internal controls. This input will help to ensure that we continue to develop as a modern public sector organisation. Full details of the role can be found in the Information Pack. Diversity and Inclusion We encourage applications from diverse backgrounds to reflect the communities we serve and to enhance decision-making through varied perspectives. We are dedicated to creating an inclusive work environment that respects and values diverse ideas and experiences. We particularly welcome applications from Black, Asian and Minority Ethnic candidates to increase our diversity of thought and lived experiences. Terms of appointment The current expected time commitment is 15 days a year. The Strategy Board will meet up to 4 times a year (once a quarter) and the Audit and Risk Assurance Committee will meet up to 4 times a year (once a quarter). If you’re appointed as a board or committee Chair, there may be a slightly higher time commitment required. Appointments will normally be for a period 3 years. This term may be extended to provide continuity through changeovers, but the maximum total term of appointment will be no more than six years. This is a fee paid role. You will be paid a monthly fee of £352.50 plus reasonable expenses. Key Dates Closing date - 10:00am on 07 April 2025 Interview - 23/24 April 2025 More information Owen Evans (HMCI) is happy to meet with anyone interested in the role. Please contact [email protected] to arrange a convenient time. You will be prompted to complete an application form during the process but for ease, please download the form here and upload on stage 3 of the application. Pwy yw Estyn? Mae Estyn yn chwarae rhan allweddol mewn diwygio addysg yng Nghymru, gan gefnogi ysgolion a darparwyr yn weithredol â’r cwricwlwm newydd a dulliau arolygu. Rydym yn canolbwyntio ar wella profiadau dysgu i bobl ifanc ac oedolion yng Nghymru ac mae dysgwyr wrth wraidd ein cenhadaeth. Ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Mae ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn craffu, yn goruchwylio ac yn rhoi sicrwydd o ran gweithdrefnau rheolaeth a llywodraethu rheoli risg i Brif Arolygydd Ei Fawrhydi (PAEF) yn rhinwedd bod yn Swyddog Cyfrifyddu, ac i’r Bwrdd Strategaeth. Am bwy rydym ni’n chwilio? Rydym yn chwilio am unigolion i lenwi swyddi ar y Bwrdd o fis Medi 2025 ymlaen. Mae gan ein Cyfarwyddwyr Anweithredol rôl ymgynghorol, yn llywio ein Bwrdd Strategol a rhesymeg a gweithrediad ei is-bwyllgorau. Disgwylir i chi gynnig safbwynt allanol mewn trafodaethau, yn ogystal â her adeiladol annibynnol – gan ehangu ein meddylfryd â’ch profiadau amrywiol. Yn ymarferol, byddwch yn asesu’r sicrwydd a roddir gan y Bwrdd Strategaeth, yn ogystal â chan archwilwyr mewnol ac allanol, ac yn cynghori ar faterion yn ymwneud â rheolaeth ariannol, llywodraethu corfforaethol, rheoli risg a rheolaethau mewnol. Bydd y mewnbwn hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu fel sefydliad cyfoes yn y sector cyhoeddus. Mae manylion llawn am y rôl i’w gweld yn y Pecyn Gwybodaeth. Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym yn annod ceisiadau o gefndiroedd amrywiol i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac i wella penderfyniadau trwy safbwyntiau amrywiol. Rydym yn ymroi i greu amgylchedd gwaith cynhwysol sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi syniadau a phrofiadau amrywiol. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i gynyddu ein hamrywiaeth o ran meddylfryd a phrofiadau byw. Telerau penodi Yr ymrwymiad amser disgwyliedig yw 15 diwrnod y flwyddyn. Bydd y Bwrdd Strategaeth yn cyfarfod hyd at 4 gwaith y flwyddyn (unwaith bob chwarter) a bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cyfarfod hyd at 4 gwaith y flwyddyn (unwaith bob chwarter). Os cewch eich penodi’n Gadeirydd y bwrdd neu bwyllgor, efallai y bydd angen ymrwymiad amser ychydig yn uwch. Fel arfer, bydd penodiadau am gyfnod o 3 blynedd. Gellir ymestyn y cyfnod hwn i gynnig parhad yn ystod trawsnewidiadau, ond ni fydd uchafswm cyfnod y penodiad yn fwy na chwe blynedd. Mae hon yn rôl y telir tâl ar ei chyfer. Byddwch yn cael tâl misol o £352.50 ynghyd â threuliau rhesymol. Dyddiadau pwysig Dyddiad cau - 10:00am ar 07 Ebrill 2025 Cyfweliad - 23/24 Ebrill 2025 Mwy o wybodaeth Mae Owen Evans (PAEF) yn hapus i gyfarfod ag unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl. Cysylltwch â [email protected] i drefnu amser cyfleus. Cewch eich annog i lenwi ffurflen gais yn ystod y broses ond, er hwylustod, lawrlwythwch y ffurflen yma a’i lanlwytho yn ystod cam 3 y cais.