Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin sy’n rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn. Nod Canllaw yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Canllaw Addasu - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. Canllaw Technegol - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus. Mae’r swydd Swyddog Ynni Cartref yn un o ddeuddeg ar draws Cymru, sy’n seiliedig ym mhob un o Asiantaethau Gofal a Thrwsio ac a fydd yn gweithredu fel rheolwyr llinell. Caiff y swyddi eu cydlynu yn ganolog gan Reolwr Prosiect, Byw’n hirach nid oerach yn Care & Repair Cymru. Bydd y Swyddog Ynni Cartref yn darparu gwasanaeth gwaith achos cynhwysfawr ac arbenigol, ymgynghorol a chymorth i bobl hŷn sydd mewn tlodi tanwydd neu mewn risg o hynny, neu sydd angen gwella effeithiolrwydd ynni eu cartref i liniaru’r oerfel. Bydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gwaith achos arbenigol ymweld â chartrefi. Bydd y gwasanaeth yn holistig, yn ymateb i broblem ac wedi ei deilwra i anghenion yr unigolyn. Bydd y pwyslais ar ostwng defnydd ynni domestig, gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi a chynyddu incwm aelwydydd. Hefyd bydd cydweithio agos gyda Gweithwyr Achos a Swyddogion Technegol Gofal a Thrwsio ac eraill yn yr Asiantaeth er mwyn trafod problemau tai eraill a materion o bryder i’r unigolyn sy’n effeithio ar eu tlodi tanwydd, eu hiechyd a’u diogelwch, a’u lles. Caiff cleientiaid eu hatgyweirio o nifer o ffynonellau – yn uniongyrchol drwy farchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer Byw’n hirach nid oerach, atgyweirio mewnol gan Weithwyr Achos a Swyddogion Technegol Gofal a Thrwsio lle mae cleientiaid angen cefnogaeth arbenigol gydag effeithiolrwydd ynni a thlodi tanwydd a chan ystod o bartneriaid atgyweirio a ddatblygwyd fel rhan o brosiect ehangach Byw’n hirach nid oerach. Bydd y Swyddog Ynni Cartref hefyd yn atgyfeirio cleientiaid ar gyfer gwasanaethau ehangach Gofal a Thrwsio fel sy’n berthnasol lle maent hefyd angen help gyda gwaith trwsio, cynnal a chadw, atal syrthio a/neu addasiadau, felly beth bynnag y llwybr ar gyfer y cleient, byddant yn derbyn gwasanaeth cynhwysfawr Gofal a Thrwsio. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Y Pecyn Math o gytundeb: C ytundeb Penodol hyd 31/03/2026 Cyflog: £28,428 y flwyddyn Oriau: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf Sut i Ymgeisio am y swydd Canllawiau sut i ymgeisio: Canllawiau cwblhau cais.pdf Pecyn Swydd: DS Swyddog Ynni Cartref Cynllun byw hirach nid oerach 11.24.pdf Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.