Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prif Swyddog Ariannol
Tâl cydnabyddiaeth cystadleuol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol, yn brifysgol fodern flaenllaw gyda phroffil dysgu, addysgu, ymchwil ac arloesi unigryw ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol, chwaraeon, iechyd, addysg, technoleg, gwyddorau cymdeithasol a bywyd, a busnes. Rydym yn chwilio am Brif Swyddog Ariannol arbenigol i ddarparu arweinyddiaeth a stiwardiaeth ariannol strategol wrth i'r Brifysgol ddechrau ar raglen eang o wella a thrawsnewid ei busnes.
Fel Prif Swyddog Ariannol, chi fydd prif gynghorydd ariannol y Llywydd a'r Is-Ganghellor, Grŵp Gweithredol y Brifysgol, y Bwrdd Academaidd, a Bwrdd y Llywodraethwyr. Byddwch yn arwain rheolaeth strategol ein gwasanaethau ariannol, gan sicrhau bod rhagoriaeth wrth gyflenwi gwasanaethau yn sail i'n llwyddiant sefydliadol. Byddwch yn hyrwyddo arloesedd ac arfer gorau, gan gynnwys wrth ailgynllunio gwasanaethau, polisïau, prosesau a gweithdrefnau, ac yn cynhyrchu mewnwelediadau ariannol cywir a hygyrch i lywio penderfyniadau a dyrannu adnoddau.
Bydd y Prif Swyddog Ariannol yn dod ag ymagwedd fodern, fasnachol at arweinyddiaeth swyddogaethau cyllid y Brifysgol, gan gydlynu gweithgareddau i ddarparu gwasanaeth hynod effeithiol sy'n seiliedig ar werth gan yr Adran Gyllid. Yn strategydd busnes rhagorol, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu ein gwaith cynllunio ariannol, yn ogystal â sicrhau'r safonau uchaf o reolaeth ariannol, goruchwylio risg, atebolrwydd ac adrodd.
Bydd ymgeiswyr yn arweinwyr dadansoddol, tactegol, gwydn, hunan-fyfyriol, cadarnhaol, sy'n canolbwyntio ar atebion ac sy’n gallu ennyn parch gan gydweithwyr ar bob lefel ar draws y Brifysgol. Bydd gennych lwyddiant blaenorol o gefnogi trawsnewid sefydliadol strategol llwyddiannus ac uwch arweinyddiaeth ariannol mewn sefydliadau cymhleth, gan arddangos gwelliannau diriaethol mewn cynaliadwyedd ariannol, cynhyrchu incwm, ac effeithiolrwydd sefydliadol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag un o brifysgolion modern mwyaf unigryw a blaengar y DU, ac mae hyn yn fwy na rôl gyllidol yn unig: mae'n gyfle i ysgogi gwelliannau a newid busnes trawsnewidiol, hyrwyddo atebion ariannol arloesol, a gwneud cyfraniad dwys i ddyfodol addysg uwch yng Nghymru.
Dyddiad cau: hanner dydd ar ddydd Gwener 17 Ionawr 2025.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r bobl fwyaf dawnus ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.
#J-18808-Ljbffr