The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, sy’n meddu ar weledigaeth, gwybodaeth a sgiliau i ymgymryd â’r swydd Dirprwy Bennaeth o’r 1af o Fedi 2025.
Rydym yn falch iawn ein bod yn:
* ysgol hapus a gwâr yngnghalon ein cymuned
* dathlu cynnydd a llwyddiannau pawb yn ddi-wahân
* gofalu am ein gilydd ac am eraill
* anelu am y gorau bob tro
* cynnig addysg a phrofiadau o’r radd flaenaf
Dewch i ymuno â thîm cefnogol, brwdfrydig a blaengar yn yr tsgol 3-19 hon. Bydd y sawl a benodir yn cynorthwyo yn y broses o arwain a rheoli’r ysgol ac yn meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol fydd yn:
* hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb
* dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl ysbrydoledig sydd yn drefnus a chydwybodol
* cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol
* bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy’n codi
Pecyn Gwybodaeth
Dyddiad Cyfweliadau: 17/02/2025
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr