Project Manager / Reolwr Prosiect - Newport Summary We're seeking an experienced Project Manager to join National Trust Cymru to manage a range of capital projects across Wales. This is a rare opportunity to join our project community on a permanent contract. You'll be joining us at an exciting time. The National Trust is launching a new 10 year strategy in 2025 and this role will give you the opportunity to be inspired by nature, beauty and history at our amazing places. Your role will involve leading and managing complex capital projects at our sites across Wales and you will support the development of our project pipeline to ensure everyone is able to access and enjoy our places for generations to come. Initial interviews will be held on Teams on 29 and 30 January 2025. Successful candidates will be asked to attend in person interviews in South Wales the week commencing 10 February 2025. Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect i ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i reoli ystod o brosiectau ar draws Cymru. Mae hwn yn gyfle prin i ymuno â’n prosiect cymunedol ar gytundeb parhaol. Byddwch yn ymuno â ni yn ystod cyfnod cyffrous. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lansio strategaeth 10 mlynedd newydd yn 2025 a bydd y swydd hon yn rhoi’r cyfle i chi gael eich ysbrydoli gan natur, harddwch a hanes ein safleoedd gwych. Bydd eich rôl yn cynnwys arwain a rheoli prosiectau cyfalaf cymhleth yn ein safleoedd ar draws Cymru a byddwch yn cefnogi datblygiad ein rhaglen brosiectau i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at ein safleoedd a’u mwynhau am genedlaethau i ddod. Bydd cyfweliadau cychwynnol yn cael eu cynnal ar Teams ar y 29ain ar 30ain o Ionawr 2025. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliadau wyneb yn wyneb yn Ne Cymru yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 10 Chwefror 2025. What it's like to work here You’ll be part of the Trust’s internal consultancy which is a flexible resource of specialist skills and expertise. As one of a multidisciplinary team of friendly experts, including conservators, archaeologists, building surveyors and project managers, you’ll be working collaboratively to make things happen. You’ll also belong to the Project and Programme Management community, led by our central team with an ambition to establish a culture of excellence in project delivery across the National Trust. Your contractual place of work can be at any of our National Trust hub offices in Wales: Tredegar (Newport), Llandeilo, Erddig, Dinas or Penrhyn (Bangor). Our hybrid working policy means you can balance office and home working with site visits and meetings at other National Trust places. We can talk about this in more detail at interview, but you should expect to be at a National Trust site for 40–60% of your working week. Day-to-day, you’ll work intensively with the teams responsible for operating the sites, and with internal and external stakeholders. You’ll get to be out on site at some of the most beautiful places in Wales. National Trust Cymru supports sustainable travel choices for staff, but due to the remote location of some of our places, the ability to drive and access to a car is essential. Sut brofiad yw gweithio yma? Byddwch yn rhan o ymgynghoriaeth fewnol yr Ymddiriedolaeth sy’n adnodd hyblyg o sgiliau arbenigol. Fel un o dîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr gan gynnwys cadwraethwyr, archeolegwyr, syrfewyr adeiladu a rheolwyr prosiect, byddwch yn cydweithio i wneud i bethau ddigwydd. Byddwch hefyd yn perthyn i'r gymuned Rheoli Prosiectau a Rhaglenni, a arweinir gan ein tîm canolog, gydag uchelgais i sefydlu diwylliant o ragoriaeth mewn cyflawni prosiectau ar draws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall eich lleoliad gwaith cytundebol fod yn unrhyw un o’n swyddfeydd hwb yng Nghymru: Tredegar (Casnewydd), Llandeilo, Erddig, Dinas neu Penrhyn (Bangor). Mae ein polisi gweithio hybrid yn golygu y gallwch gydbwyso gweithio yn y swyddfa a gartref gydag ymweliadau safle a chyfarfodydd yn lleoliadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwn yn trafod hyn mewn mwy o fanylder yn y cyfweliad, ond gallwch ddisgwyl bod ar safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 40-60% o'ch wythnos waith. O ddydd i ddydd, byddwch yn gweithio’n ddwys gyda’r timau sy’n gyfrifol am weithredu’r safleoedd, a gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn cael bod allan ar y safle yn rhai o’r lleoedd harddaf yng Nghymru. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cefnogi dewisiadau teithio cynaliadwy i staff, ond oherwydd lleoliad anghysbell rhai o’n safleoedd, mae’r gallu i yrru a mynediad i gar yn hanfodol. What you'll be doing As Project Manager, you'll lead projects through the stages of our Project Management Framework, delivering feasibility, designs, consents and implementation, all the while closely managing the scope, cost, time, risk and benefits, and working around operational requirements and constraints. You’ll work closely with contractors, consultants, specialists and stakeholders to achieve this. The role may involve some line management. You'll have experience of coordinating client-side input into projects, forming and leading project teams. Collaborative working will be critical and you will be comfortable working across a matrix structure, to build and maintain relationships with internal and external stakeholders. A natural affinity with the National Trust’s interests and values is invaluable, with an understanding of the complexities of managing projects in sensitive environments. Beth fyddwch chi’n ei wneud? Fel Rheolwr Prosiect, byddwch yn arwain prosiectau drwy gamau ein Fframwaith Rheoli Prosiect, gan gyflawni dichonoldeb, dyluniadau, caniatâd a gweithredu, tra hefyd yn rheoli cwmpas, cost, amser, risg a manteision yn agos, a gweithio o gwmpas gofynion a chyfyngiadau gweithredol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chontractwyr, ymgynghorwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid i gyflawni hyn. Gall y swydd hon gynnwys peth gyfrifoldebau rheoli llinell. Bydd gennych brofiad o gydlynu cynnwys mewnbwn gan gleientiaid mewn prosiectau, ffurfio ac arwain timau prosiect. Bydd gweithio ar y cyd yn hollbwysig a byddwch yn gyfforddus yn gweithio ar draws strwythur matrics, i feithrin a chynnal perthnasau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Byddai cydweddoldeb â diddordebau a gwerthoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn amhrisiadwy, gyda dealltwriaeth o gymhlethodd rheoli prosiectau mewn amgylcheddau sensitif. Who we're looking for able to demonstrate experience of successfully delivering complex end-to-end project/programme management, including defining resources, leading procurement securing project teams and matrix management across multiple projects/programmes a Professional with technical knowledge and skills in project management demonstrated by a recognised project (AMP PMQ/Prince) or programme management (MSP) qualification able to evidence ongoing CPD in your career to date you're a flexible thinker and problem-solver, skilled at negotiating and building productive networks, and confident in using your expertise to influence decisions with senior leaders a skilled communicator, with experience of managing complex and challenging situations with competing interests and a diverse range of people a leader for inclusion, who finds ways to create an inclusive culture confident and competent in budget forecasting and management Am bwy ydym yn chwilio gallu dangos profiad o gyflawni rheolaeth prosiect/rhaglen gymhleth yn llwyddiannus o’r cam cyntaf i’r cam olaf, yn cynnwys pennu adnoddau, arwain timau caffael prosiectau a rheolaeth matrics ar draws sawl prosiect/rhaglen unigolyn proffesiynol sydd â gwybodaeth a sgiliau technegol mewn rheoli prosiectau wedi’u tystio drwy gymhwyster cydnabyddedig mewn rheoli prosiect (AMP PMQ/Prince) neu raglen (MSP) gallu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn eich gyrfa hyd yn hyn unigolyn sy’n gallu meddwl yn hyblyg ac yn gallu datrys problemau, yn fedrus wrth drefnu a magu rhwydweithiau cynhyrchiol, ac yn hyderus yn tynnu ar eich arbenigedd i ddylanwadu penderfyniadau gydag uwch-reolwyr cyfathrebwr medrus, gyda phrofiad o reoli sefyllfaoedd cymhleth a heriol gyda buddiannau sy’n cystadlu ac ystod amrywiol o bobl gan arwain er cynwysoldeb, a dod o hyd i ffyrdd i greu diwylliant cynhwysol hyderus ac yn hyfedr wrth reoli a rhagweld y gyllideb The package The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too. • Substantial pension scheme of up to 10% basic salary • Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18) • Rental deposit loan scheme • Season ticket loan • EV car lease scheme • Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts • Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria. • Flexible working whenever possible • Employee assistance programme • Free parking at most Trust places Click here to find out more about the benefits we offer to support you. Y pecyn Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.