PRIFYSGOL BANGOR
DYSGU CYMRAEG – GOGLEDD ORLLEWIN
Tiwtor Gweithlu Addysg (Ysgol Uwchradd Caergybi) (50% CALI)
(Cyf: BU03739)
Cyflog: £29,605 - £36,024 y flwyddyn pro rata (Graddfa 6)
Gwahoddir ceisiadau am y swydd Tiwtor Gweithlu Addysg (Ysgol Uwchradd Caergybi) dros dro ran amser yn Adran Dysgu Cymraeg – Gogledd Orllewin.
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO) ym Mhrifysgol Bangor yn un o 11 darparwr sy’n darparu cyrsiau dysgu Cymraeg ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ers 1 Awst 2016, mae wedi bod yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i oedolion ar draws siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.
Mae DCGO yn gyfrifol am ddarpariaeth ar gyfer tua 2200 o ddysgwyr unigol ar hyd a lled y tair sir, ac yn gweithredu ar gyllideb o tua £2.1M. Mae’r tîm dysgu’n cynnwys 29 o staff amser llawn neu ffracsiynol, a thua 40 o diwtoriaid rhan amser.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys asesu lefelau iaith cychwynnol staff (os oes angen), tracio eu cynnydd ieithyddol a darparu gwersi Dysgu Cymraeg priodol ac addas ar gyfer unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau yn unol â’r galw. Bydd yr unigolyn llwyddianus hefyd yn darparu rôl mentor iaith o fewn yr ysgol.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at safon Gradd safonol mewn unrhyw faes perthnasol ac efo profiad dysgu eang a phrofiad o ran cynghori a chefnogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol. Rhaid i’r ymgeiswyr fod â sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, sgiliau rhyngbersonol arbennig a’r gallu i gydweithio yn effeithiol fel rhan o dîm ond hefyd yn annibynnol ar adegau. Mae brwdfrydedd am y Gymraeg ac ymagwedd ragweithiol tuag at gefnogi siaradwyr newydd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted a phosib ar ôl 28 Ebrill 2025 ac mae'r swydd ar gael tan 27 Mawrth 2026.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae’r swydd hon yn amodol ar gwiriad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Lleolir y rôl hon yng Nghaergybi.
Bydd ceisiadau ond yn cael eu derbyn trwy ein gwefan recriwtio ar-lein, jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy.
Er hynny, os ceir anhawster i ddefnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Mawrth 2025
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu a: Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr. i.gruffydd@bangor.ac.uk/ 01248 382929
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal