Rheolwr Masnachol - Arwain a Rheoli Amdanom ni: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff. Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref. Y rôl: £47,697 - £49,256 Amser-Llawn (37 awr yr wythnos) Parhaol Campws Llys Jiwbili, Abertawe Prif Gyfrifoldebau: Arwain, ysgogi ac ysbrydoli tîm sy’n cynnwys Arweinydd Cwricwlwm ac Ansawdd, Hyfforddwyr, Aseswyr/Tiwtoriaid a staff sicrhau ansawdd, gan gynnal cyfarfodydd cwricwlwm/maes dysgu yn rheolaidd. Cynnal adolygiadau blynyddol / dyrannu oriau darpariaeth yn unol â chlystyrau cwricwlwm. Monitro llwyth achosion y tîm gan sicrhau bod gan aseswyr lwyth gwaith digonol. Bodloni anghenion Dysgu Seiliedig ar Waith (Cymru a Lloegr), Cyllid AB Rhan-amser a llwybrau cyllid eraill (yn ogystal â chwblhau targedau masnachol y cytunwyd ymlaen llaw gyda’ch Rheolwr Llinell) Datblygu a chynnig cynnig cwrs llawn, gan sicrhau bod offer yn addas i’r diben ac yn ymateb i flaenoriaethau cyflogwyr a chenedlaethol e.e. polisi sgiliau hanfodol, cyflogadwyedd, ADCDF, cydraddoldeb ac amrywiaeth, y Gymraeg. Amdanoch chi: Cymhwyster addysgu a dysgu e.e. TAR neu barodrwydd i ennill cymhwyster o’r fath Dyfarniad Asesu a/neu Ddilysu Hanes o weithio â chyflogwyr Gwybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant, gan gynnwys Buddion: 37 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023) 2 ddiwrnod lles i staff Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch ein tudalen canllaw. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad. Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru. Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.