Gweithiwr Achos Oedolion Ifanc
Llawn amser
A ydych chi'n unigolyn rhagweithiol, trugarog a chydweithredol gyda hanes profedig o ddarparu cymorth, cyngor ac eiriolaeth? A oes gennych chi brofiad sylweddol o asesu anghenion pobl ifanc sydd mewn perygl o niwed sylweddol?
Os felly, mae gan St Giles gyfle cyffrous i Weithiwr Achos Oedolion Ifanc ymuno â'n tîm deinamig a gweithio ar brosiect hanfodol sy'n cynnig cefnogaeth i oedolion ifanc 18-25 oed sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.
Ynghylch Ymddiriedolaeth St Giles
Elusen uchelgeisiol, wedi’i hen sefydlu sy’n helpu pobl sy’n wynebu helbulon i ddod o hyd i swyddi, cartrefi a’r gefnogaeth gywir y mae ei hangen arnynt yw Ymddiriedolaeth St Giles. Yn ganolog i’n hethos yw ein cred bod pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o oresgyn problemau, megis cefndir troseddol, digartrefedd, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, yn allweddol i sicrhau newid positif mewn eraill.
Ynghylch y cyfle cyffrous hwn
Fel Gweithiwr Achos Oedolion Ifanc byddwch yn canolbwyntio ar hyrwyddo'r prosiect ac ymgysylltu â'ch cleientiaid yn unol â thargedau'r prosiect. Byddwch hefyd yn darparu gwasanaeth cymorth cyfannol, gan weithio'n unigol neu gyda chydweithwyr yn ôl y sefyllfa, gan gynnwys cymorth ymarferol fel mentora, cymorth cymdeithasol a thai, hebrwng i apwyntiadau, opsiynau Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth, gwaith budd-daliadau, cyngor ar ddyledion, cysylltu â gwasanaethau, gwaith DIY a glanhau.
Byddwch yn helpu cleientiaid i greu cynlluniau gweithredu unigol ac yn adolygu'r cynlluniau hyn yn rheolaidd gyda'ch cleientiaid i asesu cynnydd. Byddwch hefyd yn datblygu a chynnal perthynas ag asiantaethau partner, gan gynnwys gwasanaethau cymunedol fel yr Heddlu, Timau Troseddau Ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf, gwasanaethau plant ac awdurdodau lleol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
1. Profiad o weithio fel rhan o dîm amlasiantaethol, gan gydweithredu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i oedolion ifanc.
2. Profiad o ddefnyddio cynlluniau cymorth i alluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau cymorth yn llwyddiannus.
3. Hanes profedig o ymgysylltu'n llwyddiannus â phobl ifanc 'heriol'.
4. Profiad o asesu risg a gweithredu gweithdrefnau diogelwch.
5. Gwybodaeth weithredol o'r gwasanaethau perthnasol i oedolion ifanc yn ac o gwmpas Abertawe.
Sgiliau rhyngbersonol, meithrin-perthynas a chyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Dull hyblyg, cydweithredol a phroffesiynol o ymdrin â'ch gwaith.
Sylwch fod y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Oedolyn Uwch gan gynnwys y rhestr waharddedig ar gyfer oedolion.
Yn gyfnewid am hyn, gallwch ddisgwyl cyflog cystadleuol, lwfans gwyliau hael, pensiwn staff, gweithio hyblyg, rhaglen fentora, gwasanaeth cyngor a chwnsela, sesiynau therapyddion clinigol, yswiriant bywyd (4x cyflog blynyddol), dyddiau 'duvet', benthyciad tocyn tymor, rhaglen fanteision gweithwyr, taleb gofal llygaid a llawer mwy.
Rydym yn gyflogwr teg a chynhwysol. Rydym yn croesawu pob cais, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bobl o'r mwyafrif byd-eang a'r rhai sy'n uniaethu fel anabl, niwro-eang, neu niwro-amrywiol.
Bydd St Giles yn gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y Disgrifiad Swydd ar gyfer y swydd wag hon.
I geisio am y swydd, gofynnwch am ffurflen gais gan ein Tîm Adnoddau Dynol drwy glicio ar y botwm ymgeisio gan nodi teitl y swydd a'r rhif cyfeirnod.
Dyddiad cau: 19 Tachwedd 2024 am 11:00pm. Dyddiad Cyfweld: 27 Tachwedd 2024.
#J-18808-Ljbffr