DISGRIFIAD SWYDD
Cynorthwy-ydd Personol
TIPYN BACH AMDANAF FI FY HUN
Dw i‘n fenyw yn fy 70au cynnar yn byw yn ardal Tonteg a Chymraeg ydy fy iaith gyntaf. Mae fy chwaer a brawd yng nghyfraith yn byw yn agos ac yn fy nghefnogi bob dydd. Gan fod dementia yn datblygu’n raddol, dw i’n cael mwy a mwy o drafferth dilyn cyfarwyddiadau a phrosesu tasgau. Roeddwn i’n arfer mwynhau coginio, ond erbyn hyn byddwn i’n chwilio am gefnogaeth wrth baratoi bwyd. Roeddwn i’n arfer mwynhau garddio hefyd, ond nawr mae angen i mi gael fy annog i weithio yn yr ardd. Roeddwn i’n arfer bod yn aelod o gôr Cymraeg a dw i’n dal i fwynhau canu’n fawr. Dw i’n hoffi mynd allan i gaffis i gael cinio neu baned a chacen.
PWRPAS Y SWYDD
Dw i’n edrych i recriwtio Cynorthwy-ydd Personol i fy nghefnogi yn y ty ac allan yn y gymuned.
ORIAU GWAITH
4 i 6 awr yr wythnos, i ddechrau, i weithio dros 2 ddiwrnod. Gallai’r oriau fynd yn fwy dros amser. Gall hyn gael ei drafod yn y cyfweliad.
CYFLOG
£13.20 yr awr
TASGAU YN GYNNWYS
1. Cynnig cwmni a sgwrs gyfeillgar
2. Anogaeth a help gyda thasgau pob dydd yn y ty a’r ardd
3. Cefnogaeth i adael y ty a mynd am dro neu allan i gaffis (gyda chymorth i fynd i’r toiled mewn mannau cyhoeddus)
4. Posibilrwydd o gynnig gofal personol a chymorth hylendid yn y dyfodol
5. Sicrhau diogelwch a chysur trwy’r amser
Y MATH O BERSON SY’N OFYNNOL
1. Person ag agwedd aeddfed
2. Person cymdeithasol a chyfeillgar
3. Benyw oherwydd gofal personol
4. Rhywun sy’n sensitif ac sy’n deall fy sefyllfa
5. Mae’n hanfodol bod chi’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl
6. Gyrrwr/perchennog car gydag yswiriant dosbarth busnes
AM Y SWYDD
Er yn swydd ran-amser, bydd hon yn swydd go iawn lle mae angen darparu rhif yswiriant gwladol. Bydd cyfnod prawf o chwech mis yn y lle cyntaf. Bydd y cyflog yn cael ei dalu’n fisol, gyda thâl gwyliau priodol.
Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn llythyrau geirda boddhaol a bydd angen cynnal gwiriad heddlu (DBS) cyn dechrau ar y swydd. Bydd y cyflogwr (yr Awdurdod Lleol) yn ysgwyddo cost hyn.
Bydd gwiriadau perthnasol yn cael eu gwneud i sicrhau bod gan yr ymgeisydd yr hawl i weithio yn y DU.
Apply Now
#J-18808-Ljbffr