Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Datblygu Sefydliadol a Phobl
Lleoliad Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd Prentisiaeth
Cyflog £7.55 per hour (Year 1) then National Minimum Wage for age (Year 2).
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Tymor Sefydlog
Rhoi Nifer o Fisoedd (Misoedd) 24
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 19 Mai 2025
Dyddiad cau 08/04/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Rhaglen Brentisiaeth
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a dysgu wrth ennill arian, yn ogystal â chael cymhwyster cydnabyddedig?
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i gyflwyno prentisiaethau newydd ar draws adrannau Staff Heddlu wrth inni edrych ar ddenu talent leol o bob oed a chefndir. Mae’r amrywiaeth o gyfleoedd a fydd gennym yn cynnwys:
Prentis – Gwasanaethau Pobl
Rydyn ni’n edrych am brentis Adnoddau Dynol brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm, a fydd hefyd yn gweithio tuag at gymhwyster AD ar yr un pryd.
Fel prentis Adnoddau Dynol, byddwch chi’n chwarae rhan hollbwysig o ran darparu cymorth busnes a gweinyddol ar gyfer yr adrannau o fewn Gwasanaethau Pobl (AD), gan ennill profiad a derbyn arweiniad wrth ichi adeiladu eich gyrfa mewn Adnoddau Dynol. Mae’r brentisiaeth hon yn darparu llwybr ddysgu strwythuredig, gan roi ichi’r wybodaeth, sgiliau a phrofiad ymarferol sydd angen i ddod yn weithiwr AD proffesiynol.
Mae hon yn swydd gweithio ystwyth wedi’i lleoli ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin. Bydd disgwyl ichi fynd i’r Pencadlys ar gyfer hyfforddiant cychwynnol, ac yna o leiaf unwaith yr wythnos ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau a gweithgareddau AD eraill, yn unol â chais eich rheolwr llinell. Byddwch chi’n cael eich cofrestru ar Raglen Prentisiaeth AD Lefel 3 neu 5 wedi’i hachredu gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (gan ddibynnu ar eich profiad blaenorol a’ch addysg), lle fyddwch chi’n cyfuno astudiaeth academaidd ac ar yr un pryd yn datblygu sylfaen gadarn mewn arferion AD gorau.
Mae’r swydd hon yn gyfle gwych i ennill profiad ymarferol, datblygu sgiliau hanfodol a chyfrannu at sefydliad sy’n gwerthfawrogi ei phobl.
Os ydych chi’n angerddol am bobl ac yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn Adnoddau Dynol, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych!
Mae ein cynllun prentisiaeth ar agor i unigolion 16 oed a hŷn sy’n gadarnhaol ac yn angerddol dros yrfa yn y gwasanaeth cyhoeddus. Mae ein rhaglen yn para 24 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein prentisiaid yn ennill llawer o brofiad gwaith mewn meysydd o’n hamgylchedd plismona.
Pwy yw Heddlu Dyfed-Powys?
Ni yw’r ardal heddlu fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn falch o wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Efallai bod y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu’n fach mewn nifer (tua 515,000 o bobl), ond mae’r dirwedd ddynamig yn golygu bod yn rhaid inni fod yn arloesol o ran ein hymagwedd blismona er mwyn darparu ar gyfer anghenion gwahanol ein cymunedau, sy’n cynnwys economi twristiaeth bywiog yn ystod misoedd yr haf.
Tâl a Manteision
Byddwch chi’n derbyn y gyfradd tâl ar gyfer prentisiaid yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y tâl ar gyfer yr ail flwyddyn yn ddibynnol ar oed.
21 a throsodd
18 i 20
O dan 18
Cyfradd Prentis
Blwyddyn 1
N/a
N/a
N/a
£7.55
Blwyddyn 2
£12.21
£10
£7.55
N/A
*Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1af Ebrill 2025*
Bydd gan bob dechreuwr newydd ffrind/mentor i'ch cefnogi pan fyddwch yn ymuno, yn ogystal â
24 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
Dewis i ddod yn aelod o UNSAIN, yr undeb gwasanaethau cyhoeddus
Gostyngiadau gan wahanol fanwerthwyr drwy'r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Mynediad dewisol i gampfa ar y safle
Gweithio Hybrid/Ystwyth (gan ddibynnu ar eich swydd)
Cefnogaeth gan ein Huned Iechyd Galwedigaethol
Cynllun pensiwn
Cyfleoedd gwaith hyblyg
Darpariaethau tâl salwch
Sut mae gwneud cais?
Os ydych chi’n credu bod y sgiliau a’r angerdd gyda chi i ymuno â Heddlu Dyfed-Powys, cliciwch y ddolen isod er mwyn darllen y proffil swydd.
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
Os byddwch chi’n llwyddiannus yn eich cyfweliad, gofynnir ichi ddarparu copi o’ch tystysgrif sy’n dangos eich bod chi wedi derbyn graddau A – C yn eich arholiadau TGAU iaith Saesneg a Mathemateg (neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth).
Dalier sylw: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Amrywiaeth
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir a siaradwyr Cymraeg.
Darganfyddwch pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol yma.
Angen rhagor o Wybodaeth?
Peidiwch ag oedi i gysylltu