This is an advertisement for a Media Planning Co-ordinator for which the ability to communicate and work effectively in Welsh and in English orally and in writing to a high standard is essential for this role. Please refer to the Welsh advert for further details. Applications should be sent by 12:00 on Monday 31 March 2025 to Pobl@s4c.cymru or People and Culture, Canolfan S4C, Yr Egin, Carmarthen, SA31 3EQ. We do not accept CVs.
Applications can be submitted in Welsh. Any application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cydlynydd Trefnu Cyfryngau
Mae'r S4C yn chwilio am Gydlynydd Trefnu Cyfryngau i ymuno a'r Tîm Cyhoeddi fydd yn gyfrifol am amserlenni ymgyrchoedd hyrwyddo ar-sgrin a chynnwys aml-blatfform S4C.
Byddwch yn amserlennu a darlledu asedau fel tréls, negeseuon hyrwyddo ac eitemau graffeg yn unol â'r flaenoriaeth marchnata a chyfathrebu S4C i ddenu diddordeb y gynulleidfa a chodi ymwybyddiaeth am ein cynnwys.
Mae'r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau cydlynu ar draws yr adran gyhoeddi, gan gydweithio gyda'r adran gyfleu a gwasanaethau mynediad lle bo'r angen.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Fel rheol, bydd disgwyl i chi weithio o Sgwâr Canolog am 3 diwrnod yr wythnos. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i'w gilydd.
Cyflog: £30,000 - £32,000 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 31 Mawrth 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
#J-18808-Ljbffr