TECHNEGYDD CERBYDAU HGV
Adran y Fflyd, Cyffordd Llandudno
Parhaol, 37 awr yr wythnos (Oriau sefydlog Llun-Iau 8am-4pm Gwener 8am-3.30pm)
Graddfa NWFRS GTAGC 07 £33,024 i £ 35,745 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i benodi Technegydd Cerbydau HGV i ymuno â'n Hadran Fflyd. Mae'r rôl yn gyfrifol am wasanaethu o ddydd i ddydd, gwaith cynnal a chadw ataliol ac wedi ei ragweld ac atgyweiriadau i gerbydau, peiriannau ac offer y gwasanaeth tân i sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn ddiogel ac yn weithredol. Gan gynnal gorsaf waith ddiogel a glân, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i wneud diagnosis o ddiffygion mewn systemau mecanyddol a thrydanol er mwyn penderfynu pa ddulliau atgyweirio effeithiol sydd eu hangen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfathrebwr da, gyda sgiliau trefnu trylwyr ar gyfer cynllunio llwythi gwaith er mwyn bodloni terfynau amser a gofynion rheoli amser. Gan weithio fel rhan o dîm o dechnegwyr aml-sgiliau, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn darparu cymorth cynnal a chadw wrth gefn mewn argyfwng y tu allan i oriau fel rhan o system rota (gyda lwfans wrth gefn).
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos (gyda thystiolaeth) y sgiliau fel y’u hamlinellir yn y disgrifiad swydd a'r fanyleb person, gan gynnwys y gofynion allweddol canlynol:
• Tystysgrif City and Guilds Crefft Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm neu gyfwerth.
• Gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn amgylchedd cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau masnachol.
• Trwydded yrru lawn y DU.
• Meddu ar drwydded yrru Categori C LGV, neu’n gweithio tuag ato ar hyn o bryd gyda'r gallu i gwblhau o fewn y cyfnod prawf.
• Meddu ar Dystysgrif Cymhwysedd IRTEC i statws Meistr Technegydd neu’n gweithio tuag ato, gyda'r gallu i’w gynnal ar ôl ei gyflawni.
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol, gan ysgogi eich hun yn eich gwaith.
• Y gallu i reoli eich amser a blaenoriaethu llwyth gwaith, gan fodloni terfynau amser.
• Gallu cynnal sgwrs syml ar Lefel 2 yn y Gymraeg - os nad yw hynny eisoes wedi'i ddangos ar eich ffurflen gais, bydd angen ei gyflawni o fewn cyfnod prawf o 12 mis, gyda chymorth yn cael ei roi fel y bo'n briodol.
• Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad DBS Safonol a geirdaon boddhaol.
Mae gweithdy adran y Fflyd wedi'i leoli yng Nghyffordd Llandudno. Mae rôl y technegydd cerbydau hefyd yn gofyn am hyblygrwydd i deithio i wahanol leoliadau ar draws Gogledd Cymru ac mae'n cynnwys gwneud gwaith mewn amodau garw.
Mae rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys disgrifiad swydd a phecyn ymgeisio, ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ydi hanner dydd, 18/11/24
Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.