We are looking for a Building Connections Befriending Coordinator to join the NSPCC as we launch a brand new service for young people experiencing loneliness.
The NSPCC is further expanding its national offer with a new UK-wide service targeted specifically at supporting young people experiencing loneliness. This service matches trained befrienders (staff or volunteers) with a young person over a set number of sessions, with the goal of increasing a young person's resilience to feelings of loneliness and strengthening their overall support networks. The service has a particular focus on being accessible to young people from diverse, marginalised and/or minority backgrounds.
The Befriending Coordinator role will be integral for the delivery of the NSPCC Building Connections Service. The post-holder will
* Have line-management responsibility for a cohort of geographically dispersed volunteer,supporting their growth, development and retention
* Support the operational delivery of the Building Connections Service through recruitment and training activities
* Contribute directly to holding sessions with young people.
This is a fixed term, fully remote, full time role until the end of March 2026. The successful candidate will need to be based in Wales.
Befriending coordinators will work on a rota basis between the hours of 7:30am and 8:30pm, Monday to Friday.
Applicants are asked to review the attached job specification, and submit an application that address each of the 8 person specification points (please note there is a 10,000 character limit for the whole application).
For any queries, please contact Helplines Recruitment on HelplinesRecruitment@NSPCC.org.uk
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cyfeillio Datblygu Cysylltiadau i ymuno â'r NSPCC wrth i ni lansio gwasanaeth newydd sbon ar gyfer pobl ifanc sy'n teimlo'n unig.
Mae'r NSPCC yn ehangu ei arlwy cenedlaethol ymhellach gyda gwasanaeth newydd a gynigir ar draws y DU ac a fwriedir i helpu pobl ifanc sy'n teimlo'n unig. Mae'r gwasanaeth hwn yn paru gweithiwr cyfeillio hyfforddedig (staff neu wirfoddolwyr) gyda pherson ifanc dros nifer benodol o sesiynau, gyda'r nod o'u gwneud yn fwy gwydn yn wyneb teimladau o unigrwydd a chryfhau ei rwydweithiau cymorth cyffredinol. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio'n benodol ar fod yn hygyrch i bobl ifanc sydd o gefndiroedd amrywiol, lleiafrifol a/neu sydd ar y cyrion.
Bydd rôl y Cydlynydd Cyfeillio yn hanfodol ar gyfer darparu Gwasanaeth Datblygu Cysylltiadau'r NSPCC. Bydd deilydd y swydd yn cyflawni'r canlynol
* Bydd yn rheolwr llinell ar garfan o wirfoddolwyr sy'n gweithredu ar draws ardal eang, gan eu helpu i dyfu, datblygu ac aros yn eu rôl
* Cefnogi'r gwaith o redeg y Gwasanaeth Datblygu Cysylltiadau drwy gyfrwng gweithgareddau recriwtio a hyfforddi
* Cyfrannu'n uniongyrchol at gynnal sesiynau gyda phobl ifanc.
Cynigir y swydd hon fel rôl amser llawn, a wneir yn gyfan gwbl o bell, am gyfnod penodol tan diwedd mis Mawrth 2026
Bydd cydlynwyr cyfeillio yn gweithio drwy rota rhwng 7:30am ac 8:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gofynnir i ymgeiswyr ddarllen manyleb y swydd yn ofalus, a chyflwyno cais sy'n rhoi sylw i'r 8 pwynt a geir ym manyleb y person (sylwer na ddylai'r cais cyfan gynnwys mwy na 10,000 o nodau).
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Recriwtio'r Llinell Gymorth ar HelplinesRecruitment@NSPCC.org.uk
#J-18808-Ljbffr