The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yn eisiau mor fuan â phosib.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn, yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysg Lefel 2 ymroddedig, brwdfrydig ac ysbrydoledig i ddarparu cefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol. Mae hyn yn gyfle unigryw a chyffrous i weithio mewn ysgol gymunedol wledig llwyddiannus yng Ngheredigion.
Swydd 21 awr fydd hon, sydd wedi’i ariannu gan y Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio ac yn rhan o dîm allweddol.
Byddant yn gweithredu rhaglenni fel cylchedau synhwyraidd a ‘Attention Autism’.
Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, wrth ysgrifennu ac ar lafar.
Mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r pennaeth, Carol Davies, i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol: 01570 940 942 neu drwy e-bost ar prif@dyffryncledlyn.ceredigion.sch.uk
Gweler ein gwefan gyrfaoedd am y Ddisgrifiad Swydd.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .