Swyddog Cyllid Myfyrwyr £24,250 y flwyddyn Pensiwn: 28.97% - Ochr yn ochr a’ch cyflog, mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cyfrannu £7,025 tuag at eich bod yn aelod o gynllun Pensiwn Buddion Diffiniedig y Gwasanaeth Sifil. Llandudno Parhaol Oriau Gwaith: Patrymau shifft ar gael rhwng 08:00 - 18:00 Dyddiad Cau: 27ain Ionawr 2025. Dyddiad Cychwyn: 10fed Mawrth 2025. A yw’n bryd i chi ddatgloi eich potensial? Sefydliad di-elw gan y Llywodraeth yw Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC), sy’n darparu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr mewn prifysgolion a cholegau yn y Deyrnas Unedig. Ers 1989, rydym wedi galluogi ein cwsmeriaid i fuddsoddi yn eu dyfodol drwy ddarparu gwasanaethau asesu, talu ac ad-dalu diogel, cywir ac effeithlon. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a deinamig sydd ag angerdd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, i ymuno â'n canolfan gyswllt brysur â'n tîm asesu yn Llandudno. Mae ein Swyddfeydd Cyllid Myfyrwyr yn gyfrifol am gynorthwyo ein cwsmeriaid ar eu taith cyllid myfyrwyr trwy gynorthwyo cwsmeriaid, datrys eu ceisiadau a rheoli eu ceisiadau wrth ddysgu sgiliau newydd wrth i’ch gyrfa ddatblygu o fewn SLC. Bydd hyn yn cynnwys asesu a phrosesu ceisiadau cyllid myfyrwyr i sefydlu cymhwysedd a hawl ein cwsmeriaid i gymorth ariannol ar draws ystod eang o gynhyrchion SLC, tra’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol trwy ateb ymholiadau cwsmeriard trwy ein sianeli gwahanol, gan gynnwys galwadau i mewn ac allan, e-bost, gwe-sgwrs a thrwy gyrru llythyrau. Mae SLC yn cynnig model gweithio cymysg, lle gallwch fel arfer weithio 3 diwrnod gartref gyda 2 ddiwrnod yn y swyddfa. Bydd hyfforddiant cychwynnol yn cael ei gynnal yn y swyddfa am 6 wythnos. Yr hyn rydych yn dod: I ymuno â’n tîm fel Swyddog Cyllid Myfyrwyr yn Llandudno rhaid dangos y canlynol: Profiad o weithio o fewn gwasanaeth cwsmeriaid, yn ddelfrydol mewn canolfan gyswllt neu amgylchedd prosesu cyfaint uchel. Sgiliau TG rhagorol, gyda phrofiad sylweddol o weithio gyda MS Office, e-bost a llwyfannau meddalwedd amrywiol. Angerdd am wasanaeth cwsmeriaid gyda’r gallu i ddeall anghenion cwsmeriaid ac awydd i gyflawni safonnau uchel. Y gallu i ddefnyddio eich menter eich hun wrth weithio o fewn canllawiau diffinedig ac addasu i amgylcheddau gwaith newidiol, mewn modd cadarhaol Y gallu i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol drwy ffyrdd amrywiol gan gynnwys ffôn, e-bost a llythyr. Ymrwymiad i barhau â'ch dysgu a’ch datblygiad eich hun tra’n cynnal y wybodaeth a’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer eich rôl. Gallwch ddisgwyl llawer o yrfa gyda SLC. Rydym yn cefnogi cydweithwyr i ddatgloi eu potensial a darparu pecyn buddion a gwobrau rhagorol sy’n cynnwys: 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag wyliau cyhoeddus. Opsiwn i brynu/gwerthu gwyliau blynyddol. Amser hyblyg a gwell opsiynau gweithio hyblyg ar gael. Opsiwn i ymuno yn Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Yswiriant bywyd ar gyfer 4 x cyflog blynyddol. Tal salwch uwch cwmni ac absenoldeb teuluol gan cynnwys mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu. Opsiynau buddion ffordd o fyw cyfrannol gan cynnwys gostyngiadau mewn cannoedd o fanwerthwyr, cynllun beicio i Gwaith, mynediad i Clwb Chwaraeon a Hamdden y Gwasanaeth Sifil ar gyfer aelodaeth campfa am bris costyngol, a chynllun yswiriant deintyddol dewisol. Mae SLC wedi ymrwymo i sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn gynhwysol i bob ymgeisydd a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i'r rhai sy'n ystyried bod ganddynt anabledd neu gyflwr hirdymor yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae ein proses ymgeisio yn rhoi cyfle i ymgeiswyr wneud cais addasiadau rhesymol ond os hoffech drafod hyn yn fanylach, anfonwch e-bost at ask_recruitmentslc.co.uk. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg