Am Y Gwasanaeth A oes diddordeb gennych mewn gyrfa Gwaith Cymdeithasol? Mae dod yn Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerdydd. Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, gan gynnwys secondiadau wedi'u hariannu ar gyfer gwahanol gyrsiau gradd a hyfforddiant ôl-raddedig. Mae Caerdydd yn cynnig cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa, er enghraifft rydym wedi ariannu 23 o Gynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i fynd i'r brifysgol i gael eu cymhwyster Gwaith Cymdeithasol. Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae’r timau’n gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain a’r ddinas gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull ‘Ffocws ar y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Y manteision a gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi. Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref. Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl. Rydym eisiau penodi Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i ymuno â’n gwasanaethau sy’n tyfu yn y Gwasanaethau Plant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n timau sefydledig a chefnogol a fydd, gyda chefnogaeth y Prif Weithwyr Cymdeithasol (PWC) a Rheolwyr Tîm yn cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddyrannu achosion o lwyth bach o waith bach lle bo angen ar gyfer y tîm penodol. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, sgiliau asesu a chynllunio ac agwedd hyblyg wrth i’r gwasanaeth ddatblygu. Byddai’n fantais deall deddfwriaeth berthnasol am blant, gan gynnwys trosolwg o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ychydig o wybodaeth am Arwyddion Diogelwch. Byddwch yn gallu asesu anghenion unigolion ar sail risg, trwy ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a chynnig cynlluniau gofal. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sefydlu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n galluogi. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i’ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio mewn tîm. I gael trafodaeth anffurfiol am y rolau sydd ar gael, anfonwch e-bost i RecriwtiwchFicaerdydd.gov.uk Gwybodaeth Ychwanegol Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod. Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3caerdydd.gov.uk am drafodaeth. Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais: Canllaw ar Wneud Cais Ymgeisio am swyddi gyda ni Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol: Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-Droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd